Datganiadau i'r Wasg

Gwobr ac Arddangosfa Artes Mundi 6

CARLOS BUNGA | OMER FAST | THEASTER GATES

SANJA IVEKOVIĆ | RAGNAR KJARTANSSON | SHARON LOCKHART

RENATA LUCAS | RENZO MARTENS | KAREN MIRZA AND BRAD BUTLER

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Chapter | Ffotogallery, Penarth

24 Hydref 2014 – 22 Chwefror 2015

Heddiw mae Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 6 yn agor ei drysau yng Nghaerdydd, gan gyflwyno i’r cyhoedd arddangosfa flaenllaw o waith deg o artistiaid cyfoes mwyaf cyffrous y byd. Artes Mundi 6 yw gwobr celf gyfoes fwyaf y DU gyda’r enillydd yn derbyn £40,000. Mae’r gystadleuaeth ar agor i artistiaid sy’n ymdrin â’r cyflwr dynol yn eu gwaith.

Cyhoeddir enillydd Artes Mundi 6 ar 22 Ionawr 2015 mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd. Cadeirydd y panel beirniaid rhyngwladol yw JJ Charlesworth, beirniad celf a chyd-olygydd ArtReview. Mae’r beirniaid eraill yn arbenigwyr ar gelf gyfoes: Elise Atangana, Amanda Farr, Inti Guerrero ac Alia Swastika.

Caiff y sioe eleni ei chynnal mewn tri lleoliad – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a Ffotogallery, Penarth. Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni mae dangosiad cyntaf A complicated Relationship between Heaven and Earth or When We Believe (2014) gan Theaster Gates (UDA), sy’n cynnwys Malinese Boli, a Masonic unicycling goat. Bydd Renzo Martens (yr Iseldiroedd) yn cyflwyno gwaith cyntaf The Institute for Human Activities, yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo; hunanbortreadau mewn siocled wedi’u printio’n 3D gan weithwyr planhigfeydd yn y Congo. ByddCarlos Bunga (Portiwgal) yn cyflwyno gwaith gosod cardfwrdd unigryw i’r safle ar raddfa bensaernïol o’r enw Exodus (2014).

Realiti a delfryd yn Rhyfel Afghan America yw testun y ffilmContinuity (2012) gan Omer Fast tra bo delweddau Sanja Iveković (Croatia), Gen XX a Women’s House (Sunglasses) a’i gwaith gosod The Disobedient (The Revolutionaries) yn herio ffasgaeth a rhagfarn rhyw yn Ewrop yr 20fed ganrif. Dangosir gwaith fideo Ragnar Kjartansson (Gwlad yr Iâ), The Visitors (2013), am y tro cyntaf yn y DU, ac mae’n edrych ar y ffin denau rhwng gwirionedd a pharodi yn y diwylliant poblogaidd. Cofnod a geir yn ffilm Sharon Lockhart (UDA),Exit (2008), o weithwyr Gweithfeydd Dur Bath yn Maine, UDA tra bo Renata Lucas (Brasil) yn cyflwyno o’r newydd ei llawr pren haenog eiconig Falha (Methiant, 2003 parhaus). Mae Karen Mirza and Brad Butler (y DU) yn dangos The Unreliable Narrator (2014) ac You are the Prime Minister (2014), dau waith gosod newydd yn defnyddio neon, fideo a geiriau i ymateb i fomio Mumbai a rôl braint Brydeinig yn rhyfeloedd y Dwyrain Canol.

Meddai Karen Mackinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Rydyn ni’n hynod ffodus o gryfder rhestr fer gwobr Artes Mundi eleni. Ein gobaith yw y bydd cyfraniadau rhagorol pob artist at gelf fyd-eang yn ysbrydoli’r cyhoedd i ailfeddwl, a defnyddio celf fel modd o herio cymdeithas ac i ddod i ddeall y cyflwr dynol yn well.”

Dywedodd JJ Charlesworth, Cyd-olygydd ArtReview: “Rwy’n edrych ymlaen at weld ystod a chyfoeth y gelfyddyd gaiff ei gasglu yma ar gyfer Artes Mundi eleni. Artistiaid yw’r rhain sy’n credu y gall celf fyfyrio ar nodweddion mwyaf anodd a phryderus bywyd dyn heddiw a thaflu goleuni ar wrthdaro, tlodi, mudo a lle’r unigolyn yn y gymdeithas drefol, llawn nwyddau traul sydd ohoni. Mae ymrwymiad parhaus Artes Mundi i gelf sy’n ein hannog i feddwl yn ddwys am ein cymdeithas yn amcan clodwiw."

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae’n bleser cael llwyfannu gwobr ac arddangosfa gelf gyfoes ryngwladol Artes Mundi yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma un o arddangosfeydd celf gyfoes weledol fwyaf cyffrous Ewrop ac rwy’n falch gweld dau leoliad arall yn cael cyfle i lwyfannu gweithiau. Bydd Ffotogallery, Penarth a Chapter yn Nhreganna hefyd yn arddangos gweithiau ac yn mynd â’r arddangosfa i bob cwr o Gaerdydd gros y gaeaf. Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn manteisio ar y cyfle i weld yr arddangosfa a mwynhau straeon pwerus yr artistiaid rhyngwladol.”

 

DIWEDD