Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa’n taflu goleuni newydd ar archaeoleg yng Nghymru

Ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, am 10:30 am, bydd arbenigwyr archaeoleg blaenllaw o bob cwr o Gymru a Lloegr yn cael eu croesawu i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gynhadledd flynyddol Archaeopasts 2014. Bydd y diwrnod yn taflu goleuni newydd ar y maes a chanlyniadau ymchwil archaeolegol diweddar a hanesion cudd yn cael eu datgelu i’r cyhoedd yn ystod y dydd.

Cynhelir y gynhadledd rhwng 10:00am – 5:00pm gyda thocynnau ymlaen llaw yn £8 i oedolion, £7 gyda gostyngiad (gyda £1 am weinyddu pob pryniad). Mae’r tocynnau ar werth ar siop ar-lein Amgueddfa Cymru. Gall myfyrwyr gyda cherdyn adnabod a plant archebu ymlaen llaw am ddim drwy e-bostio digwyddiadaucaerdydd@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3148.

Gallwch dalu yn y Brif Neuadd ar y diwrnod, gyda thocyn yn £10 i oedolion, gyda thocynnau gostyngiad ac i fyfyrwyr yn £9.

Y prif siaradwr gwadd yw Dr Stuart Needham, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru fu gynt yn Guradur Casgliadau Oes Efydd Ewropeaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig ac sydd bellach yn ymchwiliwr annibynnol yn arbenigo mewn archaeoleg yr Oes Efydd. Bydd yn arwain y gynulleidfa drwy ddehongliad enigmatig o ffenomen yr halberd yng Nghymru gan esbonio twf a diflaniad yr arf dwylaw yn yr oes gynhanes.

Bydd yr ail siaradwr gwadd – Paul Belford, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT) sy’n helpu i warchod, cofnodi a dehongli pob agwedd o’r dirwedd hanesyddol – yn cyflwyno tystiolaeth newydd o ymchwiliadau diweddar, gan gynnwys Clawdd Offa.

Ymhlith y siaradwyr eraill bydd Dr Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru, fydd yn cynyddu ein dealltwriaeth o bwysigrwydd Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO Cymru.

Bydd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Adran Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru a chyfarwyddwr y gwaith cloddio yn anheddiad Oes y Llychlynwyr Llanbedrgoch, Ynys Môn, yn cyflwyno’r canlyniadau a’r dadansoddiadau diweddaraf.

Bydd Curaduron Amgueddfa Cymru hefyd yn cynnal sgyrsiau: bydd Edward Besly yn cyflwyno’r diweddaraf am gelciau Rhyfel Cartref Lloegr; Robert Protheroe-Jones yn esbonio pwysigrwydd gweithiau celf wrth ddehongli safleoedd diwydiannol modern cynnar; a Mark Lodwick, Cydlynydd Canfyddiadau y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) yn cyflwyno detholiad o ganfyddiadau diddorol ac anarferol diweddar.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

 

DIWEDD

 

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) yn raglen sy’n ein galluogi i gofnodi a chyhoeddi canfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd. Mae wedi bod yn ddull llwyddiannus iawn o gasglu gwybodaeth archaeolegol hanfodol tra’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau sy’n newydd i’r byd amgueddfaol.