Datganiadau i'r Wasg
Hwyl yr Wyl yn Llanberis
Dyddiad:
2014-11-24Sbri y Nadolig yn dod i Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Ffair Gaeaf Amgueddfa Lechi Cymru
Os ydych yn chwilio am ddipyn o hwyl i ddechrau tymor y nadolig yna dewch draw i Amguedda Lechi Cymru Llanberis ar 30 Tachwedd rhwng 11am a 4pm ar gyfer y FFAIR ‘AEAF flynyddol.
Bydd diwrnod llawn hwyl i’w gael gyda cyfuniad arbennig o weithgareddau i’r teulu oll. Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar dren am 11am ac yna yn ei ‘groto’ arbennig, a bydd ‘Sian Corn’ yn dweud storiau yn y tai Chwarelwyr. Bydd cerddoriaeth gan Band Deiniolen a charolau gan y cor lleol Genod Gwyrfai, sioeau bypedau a chyfle i wneud crefft i fynd adref, ynghyd a phrynu crefftau lleol gan ein stondiwyr crefftau. Eleni hefyd bydd cyfle i gael pas ar y tren naoldig bach yng nghanol iard yr amgueddfa fel esboniodd Julie Williams, swyddog Marchnata’r safle:
“Mae’r Ffair Gaeaf yn gyfle gwych i groesawu tymor gaeaf a chfnod y Nadolig’, Bydd Sion Corn yn cyrraedd ar dren am 11am ond hefyd bydd cyfle i blant a theuluoedd gael pas ar y tren nadolig bach fydd yn ganol yr iard. Mae gyno ni hefyd flwch post arbennig i blant bostio eu llythyrau at Sion Corn – a bydd Sion Corn yn brysur wedi’r Ffair yn ymateb iddyn nhw i gyd, ac eleni, am y tro fydd ‘Sian Corn’ yn adrodd storiau Nadoligaidd i fyny yn Fron Haul – ein Tai Chwarelwyr”
“Mae’n gyfle i ni ddiolch i bobl lleol am eu cefnogaeth drwy’r tymor, ac i atgoffa pobol ein bod ar agor drwy’r gaeaf iddyn nhw gael dod am dro. Bydd holl atyniadau’r Amgueddfa ar agor fel arfer gan gynnwys ein Tai Chwarelwyr fydd i gyd wedi’u haddurno am y tymor.”
Cynhelir y FFAIR AEAF ar 30 Tachwedd rhwng 11am a 4pm. Mae mynediad am ddim i’r amgueddfa ac i’r gweithgareddau oll ond mae taliad bychain i weld Sion Corn ac i wneud y crefftau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a’r amgueddfa ar 01286 870630 neu ebost ar llechi@amgueddfacymru.ac.uk
--- diwedd---
Am wybodaeth y wasg cysylltwch a Julie Williams on 02920 573707 julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk
Mae Amgueddfa Cymru ar agor trwy’r gaeaf Dydd Sul – Dydd Gwener 10am – 4pm.
Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil
cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.