Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yn Sir Benfro

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd yn Marloes a Sain Ffraid yn drysor

Heddiw (27 Tachwedd 2014) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Sir Benfro bod celc o ddeg arteffact efydd a chopr yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd (tua 1000-800 BC neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl) yn drysor.

Mae’r celc yn cynnwys dau lafn cleddyf teilchion, ffitiad gwain cyllell a chyllell aml lafnog, a chwe darn ingot copr ac yn pwyso bron i 2.5.kilogram i gyd. Canfuwyd y gweddillion yng nghymuned Marloes a San Ffraid ar 9 Ionawr 2013 gan Mr Adrian Young. Cawsant eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth i Mr Young ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm.

Derbyniwyd adroddiad am y trysor posibl gan Mark Lodwick, Cydlynydd Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru) gyda gwaith pellach yn cael ei wneud gan archaeolegwyr Amgueddfa Cymru.

Gwnaed ymchwiliad archaeolegol o’r safle gan archaeolegwyr Amgueddfa Cymru a PAS Cymru, gyda chaniatâd perchennog y tir a chymorth Mr Young. Dyma gadarnhau felly i’r darnau gael eu canfod yn agos at eu gilydd mewn cornel cae. Cafodd yr arteffactau eu claddu yn wreiddiol gyda’u gilydd mewn un celc, ond roeddent wedi cael eu symud yn ddiweddar o ganlyniad i aredig neu wrth wneud newidiadau i wal ffin.

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:

“Mae’r cyfuniad o wrthrychau yn y celc hwn yn awgrymu bod eitemau gorffenedig yn teithio ymhell dros y môr yn ystod diwedd yr Oes Efydd, o dde Lloegr a gogledd Ffrainc i orllewin Cymru. Mae dyluniad y cleddyfau, y wain a’r gyllell yn egsotig, ac yn anghyffredin yn yr ardal. Gallwn ni weld bellach fod y darnau ingot copr yn gyffredin mewn celciau o Sir Benfro, ac yn debyg i’r hyn a welir hefyd yng Nghernyw.”

Wedi cael ei brisio yn annibynnol, bydd y celc yn cael ei gaffael ar gyfer casgliad amgueddfa gyhoeddus, er nad yw’r lleoliad terfynol wedi cael ei gadarnhau eto.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

– Diwedd –

Notes to Editors:

1. The Portable Antiquities Scheme in Wales (PAS Cymru) is a mechanism to record and publish archaeological finds made by members of the public. It has proved a highly effective means of capturing vital archaeological information, while engaging with non-traditional museum audiences and communities.

 2. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, in partnership with PAS Cymru and The Federation of Museums and Art Galleries of Wales (The FED), has recently received a confirmed grant of £349,000 from the Collecting Cultures stream of the Heritage Lottery Fund.

For 5 years from January 2015 – December 2019, the project Saving Treasures, Telling Stories will ensure a range of treasure and non-treasure artefacts can be purchased by accredited local and national museums in Wales. The artefacts purchased will date from the Stone Age to the seventeenth-century AD.

A three year programme of Community Archaeology Projects will be delivered across Wales, working with local museums, metal-detecting clubs, local communities and target audiences.

A distinctive website will be developed for PAS Cymru and hosted on the Amgueddfa Cymru website. This will also become the focus for up-to-the-minute information about treasure and non-treasure finds reported across Wales each year. Through the projects, archaeological collecting networks will be set up and a range of training, skill-sharing, bursaries and volunteering opportunities will be delivered.