Datganiadau i'r Wasg

Rhagfyr y Rhufeiniaid

Ddechrau Rhagfyr bydd pobl yn taflu eu hunain i ddathliadau’r Nadolig, ond wyddech chi bod Gan y Rhufeiniaid arferion a thraddodiadau tebyg iawn i ni ar ddiwedd blwyddyn?

Yn oes Cesar, byddai’r Rhufeiniaid yn dathlu gŵyl canol gaeaf o’r enw Saturnalia, ac roedd yn amser o wledda a rhoi, a mwynhau gemau ac adloniant.

Ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr, rhwng 11am a 4pm, dysgwch fwy am y fersiwn Rufeinig hon o’r Nadolig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

Bydd helfa lofrudd, “Mae’r Nadolig yn Lladdfa” yn cael ei threfnu ar gyfer yr holl ymwelwyr – cyfle arbennig i bawb fwynhau digwyddiad gwahanol wrth ddysgu am wŷl Saturnalia. Dewch â’ch sgiliau ditectif er mwyn datrys y dirgelwch!

Ar ôl hela’r llofrudd drwy Nadolig Rhufeinig bydd cyfle i ymwelwyr wylio brwydrau gladiator traddodiadol Saturnalia rhwng 12pm a 3pm gyda’r llofrudd yn cael ei ddatgelu ar ôl y frwydr olaf.

Cynhelir gweithgareddau Saturnalia traddodiadol eraill drwy gydol y diwrnod hefyd a bydd cyfle i greu cannwyll o gŵyr gwenyn, addurno addurniadau heulog a gamblo gyda’r llengfilwyr yn y barics. Bydd bwydydd Rhufeinig i’w blasu hefyd, fel datys wedi stwffio a gwin sbeislyd, yn ogystal â danteithion Nadoligaidd i’w prynu.

Ond bydd tref Caerllion i gyd yn mynd i hwyl yr ŵyl ar 13 Rhagfyr, nid dim ond Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Gyda’r naws yn lledu i’r strydoedd bydd Siôn Corn yn cyfarfod y plant bach da sy’n ymweld a phlant Ysgol Gynradd Charles Williams yn cynnal eu Ffair Nadolig a Marchnad Ffermwyr yn llawn cynnyrch ffres a Nadoligaidd i’w prynu yn Neuadd y Dref.

Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru: “Rydyn ni’n hoffi cynnig profiad gwahanol i’n hymwelwyr, felly rydyn ni’n cyfuno naws Nadoligaidd â dirgelwch dychrynllyd.’

Cyfle i rannu anrhegion rhwng teulu a ffrindiau oedd Saturnalia a bydd digon o hwyl Nadoligaidd yma i ddiddanu’r teulu cyfan. Galwch draw (heb anghofio’ch het dditectif) i fwynhau Rhagfyr y Rhufeiniaid. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, neu fel byddai’r Rhufeiniaid yn ei ddweud, “Io bona Saturnalia”!

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

  

– Diwedd –