Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Dan Gyfaredd Gwydr

Ym mis Rhagfyr, bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau arddangosfa newydd o waith y crefftwr gwydr o Ffrainc Maurice Marinot, un o arloeswyr y diwydiant a drodd grefft gwydr yn gelfyddyd. Bydd Maurice Marinot: Dan Gyfaredd Gwydr, ar agor o 20 Rhagfyr tan Fehefin 2015, yn dangos gwaith arloesol yr artist stiwdio a ddatglodd botensial gwydr fel cyfrwng.

 

Bydd deugain a phedwar o ddarnau gwydr o gasgliadau Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Victoria ac Albert a Gwasanaeth Celfyddydau ac Amgueddfeydd Caerlŷr yn cael eu casglu ynghyd am y tro cyntaf ers gadael meddiant y teulu Marinot yn y 1960au a’r 1970au.

Wrth edrych ar yrfa Maurice Marinot (1882-1960) bydd yr arddangosfa’n dangos datblygiad ei waith o’i baentiadau olew cynnar i’w waith gwydr. Drwy ei arloesi, cefnodd Marinot ar wydr addurniedig traddodiadol a chanolbwyntio yn hytrach ar bŵer mynegiant lliw pur a nodweddion annatod y gwydr ei hun. Arbrofodd gyda’r deunydd i greu ffurfiau gwydr hynod arbrofol a oedd, yn ei dyb ef yn gyfystyr a cherfluniau.

Lliw oedd diddordeb mawr Marinot ac roedd yn aelod o fudiad y Ffofyddion. Gwthiodd ffiniau ei gelfyddyd gan arbrofi â gwydr ac enamel trawiadol i greu gweithiau celf lliwgar, llachar.

Bydd arddangosfa yn edrych ar wahanol agweddau o’i fywyd a’i waith, Yn ei addurniadau gwydr cyntaf o 1911 gwelwn ei ddiddordeb mewn natur a lliw llachar, ond edrychir hefyd ar ei hoffter o dirlun, testun y dychwelodd ato yn ei flynyddoedd olaf.

Bydd gwaith ar bapur o’i eiddo yn cael ei ddangos hefyd gan agor y drws i’w fywyd teuluol a sut y byddai’n canolbwyntio beunydd ar ei gelf. Dangosir hefyd frasluniau dyfrlliw o’i gyfnod yn gwasanaethu ym Morocco yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Canolbwynt yr arddangosfa fydd y cyfnod, o 1922 ymlaen, pan gefnodd Marinot ar addurno gwydr a dechrau creu ac arddangos ei wydr gwreiddiol ei hun.

Caiff y technegau amrywiol a ddatblygwyd ac a fireiniwyd ganddo eu hesbonio i ymwelwyr; gan gynnwys enamlo, ysgythru asid, gwydr â swigod, gwydr wedi cracio a modelu poeth.

Yn ogystal â hyn, bydd brasluniau yn dangos hoffter Marinot o ddarlunio bywyd stryd Ffrainc yr Ail Ryfel Byd, a’i ddiddordeb parhaus mewn cofnodi bywyd cartref a ffrindiau agos.

Dywedodd Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymhwysol Amgueddfa Cymru: “Dyma’r tro cyntaf i gasgliad mor gryf o waith Maurice Marinot gael ei gynnull ym Mhrydain, ac mae’n hyfryd cael y cyfle i arddangos y gwaith yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Drwy ddangos ei baentiadau a’i ddarluniau ochr yn ochr â’i wrthrychau gwydr cain, caiff ymwelwyr y cyfle i ddysgu mwy am yr artist pwysig hwn, arloeswr a drodd wydr yn gelfyddyd yng ngwir ystyr y gair.”

Bydd yr arddangosfa ar agor tan fis Mehefin 2015.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

 

– Diwedd –