Datganiadau i'r Wasg

Nadolig Llawen Amgueddfa Cymru

Chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn dyfarnu £175,000 i Amgueddfa Cymru

Daeth y Nadolig yn Gynnar i Amgueddfa Cymru diolch i rodd o £175,000 gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Bydd y cyfraniad gwerthfawr hwn yn cyfrannu at flwyddyn fawr o arddangosfeydd a digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2015, gan gynnwys Mi Wela I... Natur, arddangosfa ymarferol i’r teulu sy’n esbonio i ymwelwyr sut mae ymchwil gwyddonwyr yn arwain at ddarganfyddiadau newydd; ac arddangosfa cerameg gyfoes newydd o’r enw Fragile?. Bydd nawdd chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn cyfrannu at rannu digwyddiadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Geneldaethol Caerdydd â chynulleidfaoedd yng Nghymru a’r byd.

Defnyddir cyfran o’r nawdd hefyd i dalu cyflog dau brentis saer maen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Byddant yn cynorthwyo adeiladwyr arbenigol yr Amgueddfa i ail-greu llys Rhosyr – un o neuaddau Oes y Tywysogion o safle archaeolegol ar Ynys Môn.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Hoffwn ddiolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth hael barhaus. Mae’r nawdd hwn yn sicrhau y gallwn barhau i gynnig rhaglen ddynamig o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd i holl ymwelwyr Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Clare Govier, Pennaeth Elusennau’r People’s Postcode Lottery: “Rydw i wrth fy modd fod chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru. Bydd y £175,000 yn cyfrannu at flwyddyn arall o arddangosfeydd a gweithgareddau amrywiol i ddiddori a diddanu ymwelwyr.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru