Datganiadau i'r Wasg

Diwydiant Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw canolbwynt Gwaith a Buddugoliaeth

 hithau’n gan mlynedd er dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanesion y dynion a’r gwragedd fu’n gweithio yn y diwydiannau hanfodol, a’u cyfraniad at yr ymdrech ryfel.

Diwydiant Cymru

Bydd Gwaith a Buddugoliaeth: Diwydiant Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar agor tan ddydd Sul 15 Mawrth 2015.

Roedd diwydiant yng Nghymru ar ei anterth ac mae’r arddangosfa yn edrych ar effaith y rhyfel ar y diwydiannau glo, dur, llechi, gwlân a thunplat oedd yn allforio i bedwar ban byd.

Gwelir hefyd effaith y gwirfoddoli brwd ar ddechrau’r rhyfel ar y gweithlu. Gadawodd cymaint o ddynion fyd diwydiant nes ei bod yn anodd cynnal lefelau cynhyrchu deunyddiau pwysig fel glo a dur.

Oherwydd y prinder gweithwyr, gorfodwyd y llywodraeth i recriwtio menywod i gymryd lle’r dynion oedd wedi ymuno â’r lluoedd. Mae’r arddangosfa yn dangos y newid hwn, y gwahaniaeth cyflog a sut y bu cyflogi menywod yn sbardun i ymgyrchu pellach am hawliau i ferched.

Gall ymwelwyr hefyd glywed hanes rhai o gyndeidiau staff yr Amgueddfa, gan gynnwys Edith Ellen Copham (19) a laddwyd ynghyd â dwy arall, Mary Fitzmaurice (36) a Jane Jenkins (21), mewn ffrwydrad yn ffatri arfau Pembre, Sir Gaerfyrddin. Cafwyd teyrnged iddynt yn y South Wales Weekly Post ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’. Edith yw hen fodryb Caroline Smith, gwraig Ian Smith, Uwch Guradur Diwydiant Modern a Chyfoes Amgueddfa Cymru.

Ymhlith y straeon personol eraill mae hanes David John Griffiths, gweithiwr tunplat o Abertawe. Yn ystod y rhyfel fe ymunodd â 58fed bataliwn y Corfflu Gynnau Peiriant (troedfilwyr) a chael ei ladd ar faes y gad ar 21 Mawrth 1918. Roedd yn 22 mlwydd oed. Derbyniodd y teulu ei Fedal Ryfel Prydain, ei Fedal Fuddugoliaeth a Phlac Coffa. Rhoddwyd medalau David i Amgueddfa Cymru gan ei ŵyr a’i wyres ac maent i’w gweld yn rhan o’r arddangosfa. David yw hen ewythr Dr Beth Thomas, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru.

Dywedodd y Prif Guradur Diwydiant, Robert Protheroe Jones: “Mae’r arddangosfa yn coffau canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn edrych ar sut y tyfodd rhai diwydiannau tra crebachodd eraill. Mae hefyd yn dangos y cyfraniad mawr at yr ymdrech ryfel gan ddynion a menywod diwydiannau Cymru”.

Wrth sôn am y diddordeb yn yr arddangosfa hyd yn hyn, dywedodd y Swyddog Digwyddiadau, Andrew Deathe: “Rydyn ni’n clywed llawer am y gwŷr aeth i frwydro yn y ffosydd ond anaml fyddwn ni’n clywed am y gwaith a wnaed gartref i gefnogi’r rhyfel. Mae cymaint o’n hymwelwyr wedi cael eu cyffwrdd gan y straeon gan eu bod yn dangos effaith y rhyfel ar fywyd bob dydd rhan helaeth o bobl Cymru. Ddylen ni ddim anghofio’r dynion aeth i‘r ffosydd, ond rhaid cofio hefyd am y gwaith caled a’r aberth yn y pyllau, y ffatrïoedd, y ffowndrïau a’r dociau.”