Datganiadau i'r Wasg

Theaster Gates sy'n ennill Gwobr Artes Mundi 6

Mae’r artist cyfoes Theaster Gates o Chicago wedi ei ddewis o restr fer yn cynnwys 10 o brif artistiaid y byd fel enillydd prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU, Artes Mundi 6.

 

Mewn seremoni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, enillydd y wobr gwerth £40,000 a gynhelir bob dwy flynedd.

 

Mae gwaith amlochrog Gates yn cwmpasu gweithredu cymdeithasol, adfywio trefol a datblygu cymunedau mewn ardaloedd difreintiedig yn South Side Chicago, St Louis ac Omaha. Caiff ei adnabod gan lawer fel The Poster Boy for Socially Engaged Art, ac mae gwaith Gates wedi chwyldroi celf gyfoes gyda’r hyn y mae The New York Times yn ei alw’n ‘economi gylchol’, lle mae Gates yn ariannu adfywio trefol drwy werthu ei gelf.

 

Mae gosodiad buddugol Gates, o’r enw A Complicated Relationship between Heaven and Earth, or, When We Believe (2014) yn ceisio herio'r duedd Orllewinol o ganolbwyntio ar Gristnogaeth ar draul traddodiadau crefyddol eraill. Mae’r gwaith yn gyfres o wrthrychau symbolaidd a ddefnyddiwyd fel cyfryngau i gyrraedd trosgynoldeb crefyddol gan bobl o wahanol ddiwylliannau ar draws y byd. Maent yn cynnwys Boli o Mali, sef cerflun o darw er mwyn cadw ysbrydion draw a gwarchod cnydau; gafr ar feic o ddechrau’r 20fed ganrif a ddefnyddir yn seremonïau derbyn y Seiri Rhyddion yn America; llechi o do eglwys St. Laurence yn Chicago, sydd wedi’i dymchwel erbyn hyn – roedd yr eglwys yn symbol o’r tensiynau rhwng Catholigion gwyn a Phrotestaniaid du; a fideo o Billy Sings Amazing Grace, sy’n cynnwys y canwr Billy Forston a’r ensemble The Black Monks of Mississippi. Mae’r holl wrthrychau yn archwilio’r berthynas rhwng ysbrydolrwydd a llafur.

Dywedodd Theaster Gates: “Mae A Complicated Relationship between Heaven and Earth, or, When We Believe yn ystyried sut mae gwrthrychau wedi cael eu defnyddio i ddynodi pŵer, ac efallai ei fod yn eu galluogi eto i fod yn fodd o gyrraedd credoau. Rwyf yn ddiolchgar i Artes Mundi am blatfform byd-eang i ehangu’r cyd-destun ar gyfer y gwaith hwn.”

Dywedodd Karen MacKinnon, cyfarwyddwr Artes Mundi: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai Theaster Gates yw enillydd Artes Mundi 6. Mewn cyfnod digon anodd yn wleidyddol ac yn gymdeithasol, mae celf sy’n ymgysylltu â materion cymdeithasol yn cynnig ystyr i’n bywydau; mae’n herio, yn cysuro, yn addysgu ac yn gwrthsefyll. Mae pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer wedi cynhyrchu arddangosfeydd syfrdanol, ond mae panel y beirniaid eleni yn teimlo bod gwaith Gates yn sefyll allan oherwydd ei allu i fod, nid yn unig yn artist, ond hefyd yn guradur, yn hwylusydd ac yn drefolydd. Llongyfarchiadau Theaster!”

 

Dywedodd J. J. Charlesworth, Cadeirydd Panel y Beirniaid Artes Mundi 6: “I’r beirniaid, mae pob artist ar y rhestr fer eleni’n brawf o allu celf i adlewyrchu ac i ddelio â’r cwestiynau mawr sy’n wynebu dynoliaeth heddiw. Maent oll yn llwyddo i wneud hynny, ond yn eu mysg oedd gwaith Theaster yn sefyll allan oherwydd y cyfuniad ysbrydoledig o ymchwil hanesyddol, celf weledol, perfformiad a gweithredu. Rydym yn falch iawn o’i gyhoeddi yn enillydd Artes Mundi 6.”

 

Mae gwaith buddugol Theaster Gates ynghyd â’r holl weithiau eraill ar y rhestr fer i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a Ffotogallery, Penarth, tan 22 Chwefror.