Datganiadau i'r Wasg

Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol mewn arddangosfa newydd

Mae project tair blynedd o ddogfennu, curadu a digideiddio detholiad o ffotograffau hanesyddol o gasgliadau cenedlaethol Cymru wedi esgor ar arddangosfa newydd Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol, sy’n agor ar ddydd Sadwrn 24 Ionawr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Roedd y project Delweddau Naturiol yn bosibl diolch i rodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn yn 2011 a’r bwriad oedd digideiddio delweddau o bob math o ddisgyblaethau – daeareg, botaneg, hanes diwydiannol a chelf. Bydd hyd at 10,000 o luniau wedi cael eu digideiddio erbyn diwedd y project ym mis Ebrill 2015 a bydd detholiad o’r lluniau hyn yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa newydd.

Ar gyfer y project Delweddau Naturiol cafodd yr enghreifftiau gorau yng nghasgliad rhyfeddol yr Amgueddfa o tua 500,000 o ffotograffau ac eitemau hanesyddol eu trosglwyddo i fformat digidol hygyrch.

Mae’r delweddau yn cynnwys:

  • Portreadau ffotograffig o ddiwedd y 19eg ganrif
  • Casgliadau o ffotograffau gwreiddiol o Gaerdydd a’r fro yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif
  • Casgliad o luniau o goed ‘nodedig’ Cymru
  • Ffotograffiaeth arloesol o fywyd gwyllt o ddechrau’r 20fed ganrif
  • Delweddau o longau o gwmpas Dociau Caerdydd yn y cyfnod 1920-1975
  • Lluniau o byllau glo cymoedd y de, uwchben ac o dan y ddaear, o’r 1970au a’r 1980au
  • Delweddau a dynnwyd yng Nghymru gan y ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewelyn yn ystod y 1850au a’r 1860au
  • Ffotograffau o safleoedd cloddio archaeolegol yn ystod y 1930au.

O 24 Ionawr tan 19 Ebrill 2015, bydd cyfle i ymwelwyr yr Amgueddfa ddarganfod sut mae ffotograffiaeth wedi cyfrannu at hanes gweledol Cymru diolch i’r deunydd ffotograffig fydd i’w weld. Bydd y deunydd hwn yn gosod hanes ffotograffiaeth o fewn cyd-destun datblygiad casgliadau’r Amgueddfa. Mae’r arddangosfa yn olrhain esblygiad ffotograffiaeth, o fod yn gofnod gwyddonol a chymdeithasol i’w defnydd fel cyfrwng artistig.

Mae rhan o’r arddangosfa yn archwilio’r cysylltiad teuluol rhwng Henry Fox Talbot, sy’n cael ei ystyried yn aml fel ‘dyfeisydd’ ffotograffiaeth negatif-bositif, a’r teulu Dillwyn Llewelyn o ystâd Penlle’r-gaer ger Abertawe. Mae’n edrych ar yr arbrofion mewn ffotograffiaeth a wnaed ar y cyd rhyngddynt, ac yn datgelu mor arloesol oedd arbrofion y teulu Dillwyn Llewelyn yn y cyfrwng newydd hwn yng nghanol y 19eg ganrif, yn creu delweddau syfrdanol o dirwedd de Cymru ac o’u bywyd teuluol a chymdeithasol.

Mewn rhannau eraill o’r arddangosfa gellir gweld delweddau o’r casgliadau a ddadorchuddiwyd yn ystod y project, gan gynnwys gweithiau ffotograffig gan Robert Crawshay, Syr Thomas Mansel Franklen a James Robertson. Bydd nifer o ddelweddau gan ffotograffwyr amatur hefyd yn cael eu dangos, yn brawf o’r ffordd y mae ffotograffiaeth wedi cael ei defnyddio i gofnodi digwyddiadau cyffredin yng Nghymru yn ogystal â’r digwyddiadau mawr.

Bydd detholiad mwy helaeth o’r delweddau gafodd eu digideiddio fel rhan o’r project yn cael ei daflunio ar un o waliau’r arddangosfa a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu chwilio’r gronfa ddata ar-lein a grëwyd fel rhan o’r project. Bydd delweddau’n cael eu hychwanegu at y gronfa ddata tan ddiwedd yr arddangosfa, a bydd y gronfa ddata wedi’i chwblhau yn cael ei lansio ar ddiwedd Ebrill 2015.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’r arddangosfa hon yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar y cyfoeth oedd wedi’i guddio o fewn y casgliadau hyn, diolch i Rodd Pen-blwydd i Amgueddfa Cymru gan Sefydliad Esmée Fairbairn yn 2011 ar gyfer Project Ffotograffiaeth Hanesyddol Delweddau Naturiol.

“Mae digideiddio’r delweddau hyn yn golygu ein bod yn gallu agor y casgliadau i’r cyhoedd a sicrhau mwy o ddefnydd iddynt yn y dyfodol. Mae’n fodd o warchod hanes. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gymorth Sefydliad Esmée Fairbairn.

“Mae’r Rhodd wedi ein galluogi i ymchwilio, dogfennu a digideiddio detholiad helaeth o weithiau ffotograffig o wahanol gasgliadau’r Amgueddfa a rhoi iddynt y proffil y maent yn ei haeddu, ochr yn ochr â’n casgliadau gwych ar hanes diwydiannol a chymdeithasol, celf, archaeoleg a hanes natur.”

Dywedodd Caroline Mason, Prif Weithredwr, Sefydliad Esmée Fairbairn: 

“Mae gan Sefydliad Esmée Fairbairn Foundation hanes gweithio i gefnogi ansawdd bywyd unigolion a chymunedau ar draw y DU. Rydyn ni’n falch iawn bod Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol ar agor y n Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad unigryw o ffotograffiaeth hanesyddol ac mae’n bleser gallu cefnogi menter o’r fath er mwyn i mwy o bobl eu gweld a’u mwynhau.”

 

– Diwedd –

 

Nodiadau i Olygyddion:

Arddangosfeydd Ffotograffiaeth Hanesyddol yn Nhyddewi a Llanberis

Fel rhan o’r project Delweddau Naturiol, mae Oriel y Parc, Tyddewi, Sir Benfro, yn cynnal arddangosfa Delweddau Naturiol: Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol sy’n canolbwyntio ar ddelweddau o Sir Benfro yn dyddio’n ôl i’r 1850au. Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan 17 Mawrth 2015. Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn berchen i, ac yn cael ei rhedeg gan, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, bydd detholiad o ffotograffau o Gasgliadau Diwydiant Amgueddfa Cymru i’w weld yn arddangosfa Delweddau Diwydiant o 19 Ionawr tan 30 Ebrill 2015. Mae’r arddangosfa hon hefyd yn rhan o’r project Delweddau Naturiol a ariannwyd gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Mae’r detholiad yn cynnwys delweddau o’r diwydiant llechi gan y diweddar E. Emrys Jones.

 

SEFYDLIAD ESMÉE FAIRBAIRN

Mae Sefydliad Esmée Fairbairn yn ceisio gwella safon byw pobl a chymunedau drwy’r DU nawr ac ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy ariannu gwaith elusennol sefydliadau sydd â’r syniadau a’r gallu i achosi newid positif.

Mae’r Sefydliad yn un o roddwyr grant annibynnol mwyaf y DU. Rydym yn rhoi £30-£35 miliwn y flwyddyn mewn grantiau tuag at amrediad eang o waith o fewn y celfyddydau, addysg, yr amgylchedd a newid cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithredu Cronfa Gyllid gwerth £26 miliwn sy’n buddsoddi mewn sefydliadau sy’n ceisio dod ag arian yn ôl ac achosi budd cymdeithasol. www.esmeefairbairn.org.uk