Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 2015

Daw’r flwyddyn newydd â gwledd o arddangosfeydd newydd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnig amrywiaeth eang o arddangosfeydd dros dro yn ymdrin â natur, ffotograffiaeth, gwaith gwydr a cherameg. Bydd modd i ymwelwyr o bob oed ddysgu am yr arbenigedd technegol y tu ôl i’r gweithiau, all gael eu gwerthfawrogi am y grefft ac fel darnau o gelf.

Mae Mi wela i... Natur yn arddangosfa ymarferol, ddelfrydol i deuluoedd fydd yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar arsylwi byd natur a’i gofnodi. Cewch weld sut oedd naturiaethwyr Oes Fictoria’n darlunio byd natur a sut mae technoleg fodern yn galluogi gwyddonwyr i greu lluniau 3D. Cewch hefyd weld pa mor wahanol yw’r byd trwy lygaid pryfed a chael craffu’n fanwl ar lond lle o wrthrychau hanes natur dan ficrosgop. Bydd yr arddangosfa a’r rhaglen weithgareddau, sydd wedi derbyn cefnogaeth chwaraewyr People’s Postcode Lottery, i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ionawr 2016.

Mae arddangosfa Maurice Marinot: Dan Gyfaredd Gwydr (20 Rhagfyr 2014 – 7 Mehefin 2015) yn dwyn ynghyd bedwar deg pedwar darn o wydr o gasgliadau Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Victoria ac Albert a Leicester Arts and Museum Service, gan uno’r gweithiau am y tro cyntaf ers iddynt adael dwylo’r teulu Marinot yn y 1960au a’r 1970au. Mae’r arddangosfa’n edrych ar y ffordd y bu’r artist Ffrengig, a gysylltir â mudiad y Fauves, yn chwarae â gwydr ac enamel lliwgar a thrawiadol, gan ddechrau creu ffurfiau gwydr hynod arbrofol, oedd yn ei farn ef yn gerfluniau.

Bydd arddangosfa Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol (24 Ionawr – 19 Ebrill 2015) yn olrhain esblygiad ffotograffiaeth, o fod yn gofnod gwyddonol a chymdeithasol i’w defnydd fel cyfrwng artistig. Mae’r deunydd ffotograffig gaiff ei ddangos yn gosod hanes ffotograffiaeth yng nghyd-destun datblygiad casgliadau’r Amgueddfa, ac yn dangos sut mae’r cyfrwng wedi cyfrannu at hanes gweledol Cymru

Bydd yr arddangosfa’n edrych ar y teulu Dillwyn Llewelyn, oedd yn byw yn ystâd Penlle’r-gaer ger Abertawe ganol yr 19eg ganrif. Roedd y teulu yn arbrofwyr cynnar arloesol yn y cyfrwng, yn creu delweddau syfrdanol o dirwedd de Cymru, a’u bywyd teuluol a chymdeithasol. Bydd rhan o’r arddangosfa’n edrych ar brosesau ffotograffig, gan esbonio sut maent yn gweithio, a’r prosesau cemegol sy’n creu’r delweddau.

Bydd Bregus?, arddangosfa newydd ar gerameg gyfoes sy’n agor ar 18 Ebrill 2015, yn mynd ar ôl pynciau megis materoldeb, proses a mynegiant. Bydd Bregus? yn edrych ar yr amrywiaeth a’r harddwch mewn gwaith cerameg gyfoes. Caiff gweithiau allweddol o gasgliadau Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams eu dangos ochr yn ochr â gweithiau comisiwn newydd cyffrous. Mae’r arddangosfa hon yn derbyn cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Daw arddangosfa ffotograffiaeth newydd i Gaerdydd yn 2015, sef Chalkie Davies – Ei Stamp ar yr NME (9 Mai – 6 Medi 2015). Lluniau o artistiaid roc enwog y 70au a’r 80au fydd yn cael eu harddangos oll wedi eu tynnu gan y ffotograffydd Chalkie Davies.

Er ei fod bellach yn byw yn Efrog Newydd, daw Chalkie Davies yn wreiddiol o bentref Sili ger Caerdydd. Ymunodd â’r NME fel ffotograffydd ym 1975 a gweithiodd yno tan 1979, gan dynnu lluniau ar gyfer nifer o gloriau ac erthyglau, yn ogystal â theithio gyda Paul McCartney, Elvis Costello a Thin Lizzy – gan dynnu’r llun ar gyfer clawr yr albwm Live and Dangerous.

O 14 Tachwedd 2015 hyd Ebrill 2016 bydd orielau celf gyfoes Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i arddangosfa sylweddol yn bwrw golwg ar waith Ivor Davies, un o ffigyrau blaenllaw celf gyfoes Gymreig. Yn ystod y 1960au, roedd Ivor Davies yn un o aelodau allweddol y mudiad ‘Destruction in Art’ ynghyd â rhai o brif artistiaid avant-garde y cyfnod gan gynnwys Yoko Ono, Ralph Ortis, John Latham a’r Viennese Actionists.

Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar waith Davies ar draws ystod eang o gyfryngau (ffilm, perfformio, peintio a darlunio) o amgylch themâu dinistr a thrawsnewidiad materol. Mae’n gyfle gwych i archwilio treftadaeth ddiwylliannol Cymru a gwaith gwleidyddol Davies fel rhan o Grŵp Beca – casgliad o artistiaid fu’n flaenllaw wrth ddod â gwleidyddiaeth mewn i gelf yng Nghymru.

Yn ystod hydref 2015, cynhelir arddangosfa newydd sbon, Cofnodi’r Creigiau: Map Rhyfeddol William Smith, am fapiau’r daearegwr William Smith (1769-1839). Nid yw’n ffigwr adnabyddus iawn, ond y gwerinwr o arolygydd camlesi hwn luniodd y map daearegol cyntaf o wlad. Roedd ei fapiau’n arloesol, ac fe wnaethon nhw droi ein dealltwriaeth o ddaeareg, amser daearegol a gwyddor stratigraffeg ar ei ben. Bydd yr arddangosfa ddramatig a lliwgar hon yn dathlu 200 mlynedd ers cyhoeddi ei fap cyntaf. (26 Medi tan 28 Chwefror 2016).

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

– Diwedd –