Datganiadau i'r Wasg

Creu calon helyg hardd i’ch cariad

Beth am dreulio dydd San Ffolant eleni yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol? Dewch i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion ar gyfer Gweithdy Cylchau a Chalonnau Helyg ar 14 Chwefror, 2-4pm. (£15 y pen, archebwch ymlaen llaw, nifer cyfyngedig o lefydd).

Bydd y gweithdy hwn, a gynhelir gan ‘Out to Learn Willow’, yn gyflwyniad perffaith i’r grefft o blethu helyg. Gall ymwelwyr ddysgu sut i greu cylchoedd a chalonnau helyg hardd i fynd adref gyda nhw.

Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru: Mae hon yn grefft hynafol – câi basgedi eu creu gyda chyrs yn yr Aifft filoedd o flynyddoedd yn ôl. Ychydig o enghreifftiau o fasgedi sydd wedi goroesi gan fod y deunydd yn tueddu i bydru.

Mae’r hen draddodiad o greu basgedi hardd, cryf a defnyddiol o ddeunyddiau naturiol yn dod yn fwyfwy poblogaidd eto ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod i gymryd rhan mewn gweithgaredd draddodiadol yn awyrgylch gariadus ddydd San Ffolant.”

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

– Diwedd –