Datganiadau i'r Wasg

Dewch i brofi’ch gwybodaeth mewn Noson Gwis Sant Ffolant

Sut mae’ch gwybodaeth gyffredinol? Beth am ei brofi yn Noson Gwis Sant Ffolant Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar nos Sadwrn 14 Chwefror am 7pm.

Bydd y cwis hwyliog – a gynhelir yn awyrgylch ramantus Oriel Warws – yn cynnwys rowndiau gyda themâu cariadus yn cynnwys cerddoriaeth, ffilmiau a gwrthrych cudd.

Dywedodd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau Andrew Kuhne: “Dewch gyda chriw o ffrindiau neu gyda rhywun arbennig, ac am £3.50 y pen yn unig, fe gewch wydraid o win, danteithion ar y bwrdd a noson yn llawn hwyl.”

I archebu tocynnau, ffoniwch (029) 2057 3600 neu ewch i siop anrhegion yr Amgueddfa.