Datganiadau i'r Wasg

Artes Mundi yn cyhoeddi rhaglen digwyddiadau’r wythnos gloi

Mae Artes Mundi 6 wedi cyhoeddi diweddglo cyffrous i arddangosfa bresennol y wobr gyda rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer y penwythnos cloi 20 – 22Chwefror 2015.

Bydd y digwyddiadau yn cyrraedd eu hanterth gyda pherfformiad gan un o artistiaid rhestr fer Artes Mundi 6, Carlos Bunga, a fydd yn dychwelyd i Amgueddfa Cymru Caerdydd ar 22 Chwefror.

Wrth sôn am ei benderfyniad i greu’r perfformiad hwn, dywedodd Bunga, “Roedd y darn Ecsodus wastad yn cyfleu rhyw naws dawel allwn i byth ei hegluro - nid rhywbeth ro’n i wedi’i gynllunio oedd o. Dros yr holl fisoedd yma ro’n i’n meddwl am pam mae’r naws dawel yma yn yr oriel a dim ond nawr dw i’n deall bod y darn yn gweithio fel eiliad o amser gohiriedig. Bydd y perfformiad yn canolbwyntio ar gyflymu proses bywyd, cyflymu ein byrhoedledd.”

Bydd y perfformiad yn dechrau am 1yp yn y gofod oriel yn Amgueddfa Cymru Caerdydd; gall ymwelwyr wylio’r perfformiad drwy sefyll yn y gofodau oriel cyfagos.

Yn cychwyn y penwythnos cloi bydd Ffotogallery, sy’n cynnal “loc-in cyfle ola” ar 20 Chwefror yn Oriel Tŷ Turner, Penarth. Y sesiwn hwyrol hon gyda bar cyfraniadau yw’r ffordd berffaith o dreulio amser gwerth chweil gyda ffrindiau a gwaith celf Sanja Iveković a Ragnar Kjartansson.

Bydd 21 Chwefror yn gweld ffilm arloesol Renzo Marten, Rhifyn III: Mwynhewch Dlodi, yn teithio oChapter i Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown am ddangosiad unnos arbennig o’r ffilm a ddilynir gan drafodaeth dan gadeiryddiaeth yr artist, Rabab Gazoul.

Yn ogystal â’r digwyddiadau cyhoeddus hyn, bydd un o artistiaid rhestr fer Artes Mundi 6, Karen Mirza, ar y cyd â Rachel Anderson, yn arwain digwyddiad dros nos i ferched yn unig yn Amgueddfa Cymru Caerdydd ar 17 Chwefror. Rhan o brosiect o’r enw’r Cloc Patriarchaidd yw The Gossip sy’n edrych ar gyrff merched fel safleoedd gwrthsafiad; prosiect sy’n dathlu cydymddibyniad, cryfder a grym merched yn wyneb trais, cam-drin, hiliaeth a gormes.

Gwobr celf gyfoes fwyaf y DU yw Artes Mundi 6, gyda chronfa o £40,000 yn wobr. Mae’r wobr yn agored i artistiaid y mae eu gwaith yn ystyried ac yn sylwi ar y cyflwr dynol. Cyhoeddwyd Theaster Gates fel enillydd Artes Mundi 6 ar 22 Ionawr. Mae’r gwaith arobryn, ochr yn ochr â gosodweithiau gan y rhestr fer gyflawn o artistiaid ar ddangos tan 22 Chwefror yn Amgueddfa Cymru Caerdydd, Chapter a Ffotogallery, Tŷ Turner.

Ceir mwy o wybodaeth am y rhaglen gloi ar www.artesmundi.org

Gwybodaeth am ddigwyddiadau

Loc-in Cyfle OIa

Mynediad am Ddim

20 Chwefror 2015

5.30yh – 8.30yh

Ffotogallery, Tŷ Turner, Penarth

 

Renzo Martens:dangosiad o Rhifyn III: Mwynhewch Dlodi a thrafodaeth

Tocynnau £3, i gynnwys lluniaeth a phopgorn masnach deg.

Dydd Sadwrn 21 Chwefror

4.00yp

Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Bae Caerdydd CF10 5AG