Datganiadau i'r Wasg

Dangos Ffilm newydd am Arian yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Cafodd gwaith caled ac ymroddiad disgyblion o dair ysgol leol ei arddangos yn ddiweddar (dydd Mercher 11 Chwefror) mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae disgyblion 9 a 10 oed o ysgolion cynradd Pentre Graig, Craigfelen a Clase wedi bod yn gweithio ar gynllun tymor hir o’r enw Project Banc Iau Cymunedau’n Gyntaf Clwstwr y Gogledd-ddwyrain sy’n pwysleisio pwysigrwydd arbed arian nawr ac yn y dyfodol.

Erbyn hyn, mae gan y banc dros 480 o aelodau o gymunedau Abertawe ac mae wedi esgor ar nifer o brojectau eraill sydd wedi helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd ac wedi dod a gwahanol genedlaethau ynghyd. 

I’w helpu ar y daith, treuliodd y disgyblion ddiwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau fis Tachwedd diwethaf fel rhan o ddiwrnod Meddiannu Amgueddfeydd Kids in Museums. Cafodd y disgyblion gyfle i weithio gyda staff curadurol ac oriel yn ogystal â chynrychiolwyr o Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol, er mwyn creu ffilm dawel a phaneli gwybodaeth ynghylch eu banc ysgolion. 

Bydd eu gwaith nawr yn rhan swyddogol o Oriel Arian yr Amgueddfa gafodd ei lansio’n swyddogol ar ddydd Mercher 11 Chwefror gyda dangosiad cyntaf y ffilm a seremoni wobrwyo gyda Dr Kevin Clancy, cyfarwyddwr Amgueddfa’r Bathdy Brenhinol a Stuart Wilson o adran ceiniogau cyfredol Bathdy Brenhinol. 

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd y Swyddog Arddangosfeydd Jacqui Roach, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r disgyblion er mwyn creu’r ychwanegiad gwych hwn i’r oriel. 

“Trwy gydol y project rydym wedi gweld sut mae’r banc ysgolion yn ysbrydoli’r disgyblion a’r gymuned leol i arbed arian ac i ddysgu mwy am ei reoli. Mae ein perthynas gref gyda Cymunedau’n Gyntaf wedi ein helpu i hyrwyddo gwaith caled y bancwyr ifanc ac adrodd eu stori yn yr Amgueddfa.” 

Wrth siarad am y digwyddiad dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wrthdlodi, Will Evans: “Roeddwn yn y lansiad ac roedd yn wych clywed sut mae’r plant hyn wedi bod yn gweithio gyda staff o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, y Bathdy Brenhinol ac Undeb Credyd Benthyciadau ac Arbedion Abertawe (LASA) fel rhan o’r arddangosfa. Mae’r Banc Iau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o arian a rheoli arian. Mae hefyd wedi cael effaith bositif ar y cwricwlwm llythrennedd a rhifedd.”