Datganiadau i'r Wasg

Casgliad y Werin Cymru yn ymuno â chymuned dot.cymru

Casgliad y Werin Cymru yw’r sefydliad diweddaraf i symud ei wefan i’r parthau newydd .cymru / .wales.

Bwriad gwefan Casgliad y Werin Cymru yw adrodd stori Cymru a’i phobl. Mae’n brofiad dynamig a dwyieithog yn llawn o ffotograffau, dogfennau, fideos a straeon cyfareddol am hanes a threftadaeth Cymru. Fel gwefan cwbl Gymreig wedi ei chreu ar gyfer, ac yn llawn cyfraniadau gan, aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, mae mabwysiadu’r parthau dot.cymru a dot.wales yn gam naturiol.

Mae Casgliad y Werin Cymru yn rhan o’r rhaglen Sylfaenwyr a bydd, ynghyd â nifer o sefydliadau eraill ledled Cymru, yn creu presenoldeb Cymreig cryf ar y we.

Wrth siarad am fabwysiadu’r parthau newydd dot.cymru a dot.wales, dywedodd Rheolwr Rhaglen Casgliad y Werin Cymru, Rheinallt Ffoster-Jones: “mae Casgliad y Werin Cymru yn falch iawn o fod yn un o sylfaenwyr y rhaglen gyffrous hon.

“Mae’r sefydliad yn falch o gynrychioli cymunedau Cymreig a’u hanes ar-lein, ac mae bod yn rhan o’r cynllun hwn a phwysleisio ein hunaniaeth Gymreig yn bwysig iawn i ni.”

 I ddarganfod mwy am Casgliad y Werin Cymru ewch i www.casgliadywerin.cymru neu www.peoplescollection.wales.

 

DIWEDD

 

Nodiadau i Olygyddion

Caiff Casgliad y Werin Cymru ei arwain gan bartneriaeth ffederal sy'n cynnwys 3 corff treftadaeth cenedlaethol, sef Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.