Datganiadau i'r Wasg

Dathlu diwylliant Cymru ar y Glannau

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar dân i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi dros y penwythnos gydag amrywiaeth o gerddoriaeth a chrefftau, cennin Pedr a dreigiau.

Gall ymwelwyr alw draw ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror (12pm-4pm) i gydganu’r anthem gyda Chôr Meibion Abertawe, perfformiadau gan Stagecoach Theatre Arts o’r ddrama gerdd boblogaidd Billy Elliot, a siop lyfrau Gymreig gyda Oxfam Cymru. Gall y plant fwynhau crefftau cyffrous gan greu chwyrligwgan cennin Pedr neu byped draig gydag adenydd sy’n symud!

Yma hefyd bydd sioe gerdded Vagabondi Puppets and Dragon Walkabout a fflashmob olaf Mr Urdd, fydd yn gorymdeithio drwy Erddi’r Castell ac yn gorffen yn yr Amgueddfa.

Ar ddydd Sul 1 Mawrth, bydd y band gwerin Cymreig Calan yn llenwi’r lle â sain ffidil, gitâr, acordion, bacbib a chlocsiau’n stepio wrth berfformio caneuon o’u albwm newydd Dinas am 1.30pm a 2.45pm.

“Rydyn ni wrth ein bodd â’r amrywiaeth o weithgareddau y byddwn ni’n eu cynnig dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry. “Bydd yn gyfle i’r teulu cyfan fwynhau awyrgylch Cymreig, a hynny am hanner awr neu am brynhawn cyfan!”

DIWEDD