Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor ar Ynys Môn

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd a ganfuwyd yng nghymuned Cwm Cadnant yn drysor

Ddoe (25 Chwefror 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o bedwar arteffact aur a chopr y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.

Cafodd y celc, sy’n cynnwys modrwy aur fylchgrwn a thri darn ingot copr, ei ddarganfod yng nghymuned Cwm Cadnant ym mis Mai a Mehefin 2013 gan Mr Philip Cooper.

Cafodd yr arteffactau eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth i Mr Cooper ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm. Cafodd yr arteffactau eu claddu yn wreiddiol gyda'i gilydd mewn un celc ond roeddent wedi cael eu symud a’u gwahanu, oherwydd gwaith ffermio diweddarach mae’n debyg.

Cafodd y darganfyddiad ei adrodd yn gyntaf i Ian Jones, curadur yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, a Roland Flook archaeolegydd curadurol o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd cyn i archaeolegwyr yn Amgueddfa Cymru gael eu hysbysu.

Mae’r fodrwy aur wedi’i haddurno gyda stribed arian sydd wedi’i throelli o amgylch y band aur. Mae dau ben y fodrwy yn fflat, gyda bwlch rhyngddynt. Efallai mai modrwy wallt, addurn bychan o’r Oes Efydd, ydyw, ond mae’n bosibl mai fel clustdlws y câi ei defnyddio, gyda’r band cyfan yn mynd trwy dwll yn llabed y glust. Mae un ochr o’r fodrwy wedi gwisgo’n denau o gael ei defnyddio gan ei pherchennog gwreiddiol.

Mae nifer arwyddocaol o fodrwyau gwallt yn cael eu darganfod ledled Iwerddon a Lloegr, gyda rhai hefyd yn yr Alban, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd. Yng ngogledd orllewin Cymru, mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod yn Nhrearddur, Ynys Môn a Graianog, Gwynedd.

Mae ingotau copr ac efydd siâp plano-amgrwm yn aml yn cael eu canfod mewn celciau o ddiwedd yr Oes Efydd. Caent eu cludo a’u cyfnewid dros y môr a’u defnyddio fel deunydd crai i greu offer ac arfau efydd.

Wedi cael ei brisio yn annibynnol, bydd y celc yn cael ei gaffael gan Oriel Ynys Môn, gan ddefnyddio arian o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru:

“Mae’r fodrwy wallt aur yn un gelfydd, oedd yn cael ei gwisgo gan ddyn neu fenyw o bwys o fewn eu cymuned. Gallai’r aur fod wedi dod o Gymru neu Iwerddon. Mae gan y darnau o ingot copr gysylltiad pwysig â’r fodrwy. Byddai’n ddiddorol gwybod os cawsant eu cludo a’u cyfnewid o bell, neu eu creu o fwynau lleol Mynydd Parys neu’r Gogarth.”

Dywedodd Ian Jones, Swyddog Curadurol yn Oriel Ynys Môn, Llangefni:

“Bydd y trysorau lleol cyffrous hyn yn cyfoethogi ein casgliadau presennol, ac yn rhoi cyfle i’n hymwelwyr weld enghraifft o addurn cywrain gafodd ei wisgo ddiwethaf yn ystod yr Oes Efydd. Mae’r darganfyddiadau hefyd yn pwysleisio gwerth metalau megis aur, copr ac efydd fel nwyddau i’w cyfnewid a’u defnyddio.

“Mae’n bleser cael gweithio gydag Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a gallu sicrhau arian trwy gyfrwng project Saving Treasures, Telling Stories Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r person wnaeth ddarganfod y trysor a’r tirfeddiannwr am eu cydweithrediad parod.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

– Diwedd –

Notes to Editors:

1. The Portable Antiquities Scheme in Wales (PAS Cymru) is a mechanism to record and publish archaeological finds made by members of the public. It has proved a highly effective means of capturing vital archaeological information, while engaging with non-traditional museum audiences and communities.

2. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, in partnership with PAS Cymru and The Federation of Museums and Art Galleries of Wales (The FED), has recently received a confirmed grant of £349,000 from the Collecting Cultures stream of the Heritage Lottery Fund.

For 5 years from January 2015 – December 2019, the project Saving Treasures, Telling Stories will ensure a range of treasure and non-treasure artefacts can be purchased by accredited local and national museums in Wales. The artefacts purchased will date from the Stone Age to the seventeenth-century AD.

A three year programme of Community Archaeology Projects will be delivered across Wales, working with local museums, metal-detecting clubs, local communities and target audiences.

A distinctive website will be developed for PAS Cymru and hosted on the Amgueddfa Cymru website. This will also become the focus for up-to-the-minute information about treasure and non-treasure finds reported across Wales each year. Through the projects, archaeological collecting networks will be set up and a range of training, skill-sharing, bursaries and volunteering opportunities will be delivered.