Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael gweithiau Frank Auerbach o gasgliad Lucian Freud

Pleser yw cyhoeddi bod dau baentiad gan Frank Auerbach wedi cael cartref parhaol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Derbyniwyd y gweithiau yn lle treth etifeddiant gan ystâd yr artist byd-enwog Lucian Freud, a fu farw yn 2011, a’u rhoi yn barhaol i Amgueddfa Cymru.

O 17 Mawrth bydd y ddau baentiad i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – y gwaith olew ar gynfas Coeden ar Riw Briallu 1985-89, a’r gwaith pin ffelt ar bapur Coeden (Rhiw Briallu). Bydd trydydd gwaith, paentiad olew Pen EOW 1955,yn cyrraedd yr Amgueddfa yn 2016 yn dilyn arddangosfa Tate o yrfa Auerbach ddiwedd y flwyddyn bresennol.

 

Mae’r tri gwaith yn rhan o gasgliad o 40 o baentiadau a gweithiau Frank Auerbach, un o artistiaid mwyaf Prydain heddiw. Adeiladwyd y casgliad dros flynyddoedd lawer gan ei gyfaill, yr artist Lucian Freud, a dyma’r casgliad preifat pwysicaf o waith Auerbach. Yn 2014, yn unol ag ewyllys Freud, derbyniodd Cyngor Celfyddydau Lloegr y casgliad ar ran y genedl – y rhodd mwyaf erioed yn lle treth – a’u dosbarthu i amgueddfeydd ac orielau ledled y DU.

 

Dihangodd Freud o’r Almaen rhag y Natsiaid gyda’i deulu cyn yr Ail Ryfel Byd a dod yn dinesydd Prydeinig ym 1939. Cyn ei farw yn 2011 yn 88 mlwydd oed, cai ei gyfri gan nifer yn artist byw mwyaf Prydain.

 

Roedd gan Lucian Freud gysylltiadau cryf â Chymru. Astudiodd wrth lin y Cymro Cedric Morris, gweithiodd yma am gyfnod, ac mae ei waith i’w weld yn y casgliadau celf cenedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Ymhlith yr amgueddfeydd ac orielau eraill sy’n elwa o’r casgliad mae sefydliadau yn Aberdeen, Glasgow, Belfast, Newcastle-upon-Tyne, Kendal yn Ardal y Llynnoedd, Hartlepool, Wakefield, Manceinion, Birmingham, Walsall, Bryste, Norwich, Caergrawnt, Rhydychen a Llundain. Clustnodwyd gweithiau eraill o’r ystâd i leoliadau yn Lerpwl a Leeds. 

 

 

Dywedodd David Anderson; “Bydd y paentiadau yma yn gaffaeliad sy’n ehangu ein casgliad o gelf gyfoes ac yn ategu’r gwaith olew gan Frank Auerbach sydd yn ein meddiant yn barod, Park Village East.

 

“Nid hwn yw’r rhodd cyntaf i ni ei dderbyn gan Ystâd Lucian Freud. Buom yn ffodus i gaffael yn 2013 gerflun efydd prydferth o geffyl yn carlamu o waith Edgar Degas, yr artist argraffiadol enwog o Ffrainc.

 

“Rydw i wrth fy modd y bydd y gweithiau gwych yma bellach yn cael eu harddangos yn gyhoeddus; yn gyfle cyffrous i ymwelwyr ymwneud â chelf gyfoes.”

 

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates; “Bydd y gweithiau trawiadol yma gan Frank Auerbach yn gaffaeliad mawr, ac yn ategu casgliad celf rhagorol Amgueddfa Cymru. Mae’r rhodd hwn yn lle treth yn golygu y gall cynulleidfa ehangach fwynhau casgliad paentiadau y diweddar Lucian Freud. Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn manteisio ar y cyfle i ymweld a mwynhau’r gweithiau prydferth, a gweddill arlwy’r Amgueddfa.”