Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Môr Plastig yn Oriel y Parc yn canolbwyntio ar sbwriel môr

Tynnwyd ffotograffau gyda manylion fforensig, o sbwriel môr o bob cwr o Arfordir Sir Benfro, er mwyn herio syniadau o’r hyn sy’n ‘naturiol’ ar gyfer arddangosfa newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Yn ei rôl fel Artist Preswyl Cerhyntau Arfordirol yn Oriel y Parc, mae’r artist ffotograffig o Ogledd Sir Benfro, Mike Perry, wedi defnyddio plastigion a gasglwyd o draethau lleol i ddatblygu ei gyfres Môr Plastig.

 

Bydd gan yr arddangosfa hefyd gysylltiadau â’r arddangosfa bresennol Delweddau Naturiol – Dadorchuddio Ffotograffau Hanesyddol, sydd yn y brif oriel yn Oriel y Parc.

 

Meddai Mike: “Mae fy ngwaith, yn rhannol, yn adlewyrchu defnydd byd-eang a’r ffordd rydyn ni’n trin y blaned, a hefyd mae’n stori am ffurfiau newydd rhyfedd sy’n deillio yn sgil byd natur yn ail-lunio pethau gwneud.”

 

Dywedodd Swyddog Datblygu’r Celfyddydau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Kate Wood: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi gallu gweithio gydag artist o statws fel Mike Perry, a hoffwn gydnabod cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gan na fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth honno.”

 

Casglwyd y plastigion ddiwedd mis Ionawr yn ystod cyfres o gynlluniau glanhau traethau, gyda chymorth Cadwch Gymru’n Daclus ac aelodau’r cyhoedd.

 

Dewisodd Mike wrthrychau plastig fel hen fflip fflops a bwced wedi’i gorchuddio â chregyn llong, a thynnodd ffotograffau ohonynt â chamera hynod o bwerus, a llwyddodd i gyfleu'r manylion a’r pydredd yn sgil blynyddoedd yn y môr.

 

Ychwanegodd Bryony Dawkes, Curadur Prosiectau Partneriaeth Amgueddfa Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gael Mike fel artist preswyl yn Oriel y Parc. Mae ei ffotograffau fforensig a symbylol o dirwedd yr arfordir heddiw yn cyferbynnu'n ddifyr â’r lluniau hanesyddol o Sir Benfro sy’n cael eu harddangos yn arddangosfa Delweddau Naturiol ar hyn o bryd. 

 

“Gobeithio y bydd ymwelwyr yn mwynhau’r dehongliadau amrywiol a difyr o’r ‘dirwedd’ sy'n cael eu harddangos yn Oriel y Parc yn ystod cyfnod Mike fel artist preswyl."

 

Mae Mike eisoes wedi arddangos rhywfaint o’i waith o’r gyfres Môr Plastig yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Academi Frenhinol y Celfyddydau ac mae gwaith newydd sydd wedi’i greu yn ystod ei gyfnod preswyl eisoes wedi’i ddewis i’w arddangos yn y Biennale yn Fenis yn 2015.

Bydd ffilm fer am gyfnod yr artist preswyl, wedi’i chyfarwyddo gan Eilir Pierce, hefyd yn cael ei lansio yn Oriel y Parc ar 10 Mawrth.

 

Cefnogir cyfnod preswyl Cerhyntau Arfordirol Mike Perry, sy’n para tan 17 Ebrill 2015, gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Sefydliad Esmée Fairbairn.

 

Diwedd

 

Capsiynau:

Plastiglomerate y daethpwyd o hyd iddo yn Niwgwl © Mike Perry

Darn o gawell pinc © Mike Perry

 

Cyhoeddwyd gan Medi George, Adran Cyfathrebu’r Parc Cenedlaethol, ffôn 01646 624867 neu e-bost medig@pembrokeshirecoast.org.uk.

 

Nodiadau i olygyddion

 

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn cael ei reoli ganddo, gan weithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru.

 

Agorwyd yr atyniad yn 2008, ac mae’n oriel rad ac am ddim, gyda’r gorau yn y byd, sy’n arddangos dehongliadau artistiaid o’r dirwedd, o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru.

 

Yn Oriel y Parc hefyd, mae yna Ganolfan Ymwelwyr, Stiwio Artist Preswyl, Ystafell Ddarganfod sy’n cynnal gweithgareddau celf a natur i’r teulu cyfan, Tŵr sy’n cynnal arddangosfeydd o waith celf lleol a dosbarthiadau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned, a chaffi.