Datganiadau i'r Wasg

Offer achub bywyd yn Amgueddfa Cymru

Mae diffibrilwyr achub bywyd bellach wedi’u gosod ar saith safle Amgueddfa Cymru i ddiogelu’r staff a’r 1.6 miliwn o bobl sydd (ar gyfartaledd) yn ymweld bob blwyddyn.  Yn ogystal a gosod yr offer achub bywyd, mae staff Amgueddfa Cymru wedi derbyn hyfforddiant i’w defnyddio’n gywir.

Wedi gosod peiriant diffibrilio yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn 2011, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ehangu’r Cynllun Diffibrilio Mynediad y Cyhoedd (PADS) a gosod Diffibriliwr Allanol Awtomatig (AED) ar bob safle, at ddefnydd y cyhoedd a’r staff os bydd rhywun yn dioddef Trawiad ar y Galon Dirybudd (SCA).

Ychwanegodd Paul Green, Dirprwy Reolwr Big Pit: “Diogelwch yw ein cyfrifoldeb cyntaf. Rydyn ni’n croesawu ymwelwyr bob dydd ac mae gosod y diffibriliwr tanddaearol  yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i staff ac ymwelwyr.

“Yn 2011, Big Pit oedd y pwll glo cyntaf yn y DU i osod diffibriliwr danddaear ac rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cydweithio â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ymestyn y broses hon i ddiogelu ymwelwyr â phob un o’n saith Amgueddfa.”

Esboniodd Mr Rothwell o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ymhellach: “Erbyn hyn rydyn ni wedi hyfforddi dros 4,000 o wirfoddolwyr i ddefnyddio PADS mewn 250 a mwy o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys meysydd awyr, canolfannau siopa, gorsafoedd rheilffordd, canolfannau hamdden a chopa’r Wyddfa hyd yn oed.

“Rydyn ni’n edrych o hyd i osod yr offer mewn cyrchfannau poblogaidd, fel saith lleoliad Amgueddfa Cymru. Mae’n fraint cael dweud i’r staff weithio’n galed yn ystod yr hyfforddiant ac y byddan nhw’n barod i helpu rhywun gaiff ei daro’n sâl.

“Fel y mae cylchoedd achub bywyd wrth law mewn pyllau nofio, bydd offer PADS wrth law yn galluogi staff i roi cymorth i bobl sy’n dioddef trawiad ar y galon.”

Derbyniodd pob un o wirfoddolwyr staff Amgueddfa Cymru bedair awr o hyfforddiant er mwyn galluogi iddynt ddefnyddio’r peiriant achub bywyd drwy sioc drydanol yn ogystal â darparu sgiliau cynnal bywyd sylfaenol.

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

– Diwedd –

Notes to Editors

1.    A Public Access Defibrillation Scheme (PADS) is any location that has an Automated External Defibrillator (AED) available for use by members of the public and/or staff in the event of a Sudden Cardiac Arrest (SCA).

2.    AED is a portable device of the size of a bag that operates on battery and analyses the heart rhythm and if necessary can deliver an electrical shock or defibrillation to a casualty in a cardiac arrest.

3.    A cardiac arrest occurs when the heart stops beating effectively and normal breathing ceases. This results in the casualty becoming unresponsive and urgent intervention is required. The chances of survival are greatly increased when an AED is applied.