Datganiadau i'r Wasg

Arddangos Gitâr Fas Pepsi Tate yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn ddiweddar, derbyniodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gitâr fas Royal Electra i’w arddangos yn Oriel Diwrnod o Waith. Cofnod yw’r oriel o’r newid yn niwrnod gwaith y Cymro yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac mae’n cynnwys adran arbennig ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth.

Mae’r gitâr eiconig – rhodd gan y band roc Tigertailz – wedi cael ei ailbeintio yn ddiweddar yn ei binc llachar gwreiddiol, a bydd yn ychwanegiad trawiadol i’r arddangosfa boblogaidd.

Chwaraewyd y gitâr gan y diweddar Pepsi Tate yn fideo’r band o’r gân Livin’ Without You ym 1988.

Dyma Jay Pepper, gitarydd a sylfaenydd Tigertailz yn sôn am yr offeryn gan ddweud: “Mae gitâr fas Pepsi wedi bod yn fy swyddfa i am saith mlynedd a dwi’n edrych arno bob dydd, ond roeddwn i’n meddwl y byddai ffans Tigertailz a ffans cerddoriaeth yn dwlu ei weld e hefyd. Felly pan ges i’r cyfle gan Amgueddfa Cymru i’w ddangos fel rhan o’r casgliad yn Abertawe, doeddwn i methu meddwl am le gwell i’w gadw fe.

“Roedd Pepsi Tate wedi’i drwytho ym myd adloniant Cymru trwy ei dad, yr actor Ray Smith ei fand, Tigertailz a’i wraig, y gantores a’r cyflwynydd Shân Cothi. Cafodd ei gitâr ei gynhyrchu’n arbennig gan gwmni o Gymru, Royal Guitars felly roedd arddangos yr offeryn mewn amgueddfa yng Nghymru yn gwneud synnwyr perffaith.” 

Meddai Ian Smith, Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Mae gitâr Pepsi yn wrthrych hynod ac yn gaffaeliad gwych i’r casgliad cenedlaethol. Bydd yn cael ei ddangos yn Oriel Diwrnod o waith fel y gallwn ni a chenedlaethau’r dyfodol ei werthfawrogi. Diolch yn fawr i Tigertailz am ei roi i bobl Cymru.”