Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain a Sul y Mamau

Dewch draw ar gyfer Gwyddoniaeth ar y Sadwrn ar 14 Mawrth. O 12-4pm bydd modd i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, arddangosiadau ac arbrofion syfrdanol.

Bydd y diwrnod, sy’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng Materials: Live! SwanSTEMWomen, Cymdeithas Ddeunyddiau De Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn cynnwys printio 3D, gwyddoniaeth blwch sebon, byd rhyfeddol plancton, llysnafedd magnetig, gwyddoniaeth byw, ffiseg feddygol a helfa drysor wyddonol.

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau Andrew Kuhne: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw i gynnal y digwyddiad hwn ar gyfer gwyddonwyr ifanc brwd. Mae’n ffordd o gefnogi Wythnos Wyddoniaeth Prydain, ond hefyd yn gyfle perffaith i ymwelwyr gael eu syfrdanu gan ryfeddodau gwyddoniaeth a pheirianneg mewn ffordd sy’n hwyl ac yn agored i bawb.”

Mae digwyddiadau eraill dydd Sadwrn yn cynnwys sgwrs i oedolion gan Richie Wood o Brifysgol Abertawe, fydd yn trafod cyfraniad merched ar y Ffrynt Cartref tuag at ymdrech y Rhyfel Byd Cyntaf (11am).

Yna ar ddydd Sul 15 Mawrth o 12.30pm-3.30pm bydd modd i ymwelwyr ddathlu Sul y Mamau drwy alw heibio i greu magned blodau neu fwynhau ffilm i’r teulu am 2pm yn yr Oriel Warws.