Datganiadau i'r Wasg

Gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn marchnata i un o staff y Glannau

Mae Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, wedi derbyn gwobr Hyrwyddwr Marchnata y Flwyddyn ar gyfer Amgueddfeydd mewn seremoni fawreddog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith gwych a wneir gan staff mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru, yn aml gydag ychydig iawn o adnoddau.

Roedd dros 40 o ymgeiswyr ar gyfer y gwobrau eleni o lyfrgelloedd, amgueddfeydd a gwasanaethau archifau ledled Cymru. Roedd y categorïau’n cynnwys: Arddangos Rhagoriaeth Marchnata; Prosiect Cydfarchnata y Flwyddyn a Hyrwyddwr Marchnata y Flwyddyn.

Wrth sôn am wobr Marie, dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:

“Mae hon yn gydnabyddiaeth wych i Marie ac yn profi faint o waith creadigol a llawn dychymyg mae hi wedi’i wneud i Amgueddfa Cymru dros y 6 mlynedd ddiwethaf. Yn benodol, mae hi wedi gweddnewid dull marchnata digidol Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a’n rhoi ni ar y map fel un o brif atyniadau Abertawe a’r ardal.”

June Francois, Pennaeth Marchnata Amgueddfa Cymru, wnaeth enwebu Marie, a dywedodd:

“Mae Marie’n seren yn y byd marchnata, ac mae wedi profi nifer o lwyddiannau megis ffigyrau ymwelwyr uchaf erioed, meithrin perthynas dda gyda rhanddeiliaid, creu ffynonellau incwm newydd a defnyddio technegau marchnata newydd yn effeithiol er mwyn adlewyrchu’r newid yn nhueddiadau cwsmeriaid a datblygiadau mewn technoleg. Mae ei brwdfrydedd yn heintus a’i hagwedd bositif yn gwneud Marie yn gydweithwraig hynod gefnogol ac yn aelod amhrisiadwy o dîm sy’n hybu marchnata o fewn yr Amgueddfa mewn modd hynod effeithiol.”

Roedd y gwobrau yn rhan o raglen Denu’r Gynulleidfa Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rydym eisiau gweld cymaint â phosibl o bobl yn defnyddio ein llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau gwych ac yn cael budd ohonynt. Mae marchnata yn bwysig er mwyn annog pobl i ddefnyddio’r adnoddau hyn ac rwyf yn falch ein bod yn cydnabod y gwaith da gaiff ei wneud ar draws y sector, er yr amgylchiadau heriol.

“Roedd safon y ceisiadau eleni yn ardderchog; mae’n braf gweld cymaint o enghreifftiau o arferion da o fewn y sector a syniadau gwirioneddol arloesol.”

Cafodd gwesteion y digwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfle i glywed mwy am yr ymgeiswyr buddugol, cyfarfod â’r beirniad a chlywed siaradwyr gwadd yn sôn am gyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r wasg.

Cafodd yr holl gategorïau eu beirniadu gan Dr Jonathan Deacon, Darllenydd mewn Entrepreneuriaeth a Marchnata ym Mhrifysgol De Cymru ac Ymddiriedolwr (cyn Gadeirydd) Sefydliad Marchnata Siartredig Cymru.

Roedd yr enillwyr yn derbyn tlws, tystysgrif ac amrywiaeth o wobrau gan gynnwys gweithdai marchnata a chyfarpar arbennig i’w galluogi i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a gwella eu gweithgareddau marchnata.