Datganiadau i'r Wasg

Gwylio’r Eclips Haul yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Peidiwch â cholli cyfle prin i weld eclips rhannol ar yr Haul, fydd i’w weld yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 20 Mawrth. Mae Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Cymru a’r Sefydliad Ffiseg yn gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau bod modd i chi wylio’r ffenomen anhygoel hon yn ddiogel, gydag arbenigwyr wrth law. Mae yna hefyd gyfres o sgyrsiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar nos Iau 19 Mawrth i ddathlu’r digwyddiad.

O tua 8.30am, bydd y Lleuad yn pasio o flaen yr Haul. Er na fydd i’w weld yn cuddio’r Haul yn gyfan gwbl o Gaerdydd, am 9:30am bydd y Lleuad yn cuddio tua 85% o arwyneb yr Haul. Bydd yr Haul i’w weld yn dipyn llai llachar, ond ni ddylid edrych ar yr eclips yn uniongyrchol heb gymryd gofal priodol.

Wrth edrych ar yr Haul, hyd yn oed yn ystod eclips, rhaid bod yn ofalus iawn - mae’r Haul yn ddigon llachar i beri niwed difrifol a pharhaol i olwg. Er mwyn gwylio’r eclips yn ddiogel, mae gwahoddiad i ymwelwyr ymuno â ni ar risiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rhwng 8.30am a 10.30am fore Gwener. Bydd aelodau o staff Amgueddfa Cymru, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Ffiseg yn gwylio’r digwyddiad gan ddefnyddio telesgopau arbennig, citiau taflunio a sbectolau eclips. Dewch draw!

Os ydych am wylio’r eclips, boed gartref, yn yr ysgol neu'r gwaith, y ffordd fwyaf diogel yw creu delwedd o’r haul. Gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio camera twll-pin syml, neu hyd yn oed golandr, i daflunio delwedd ar wal neu ddarn o gerdyn.

Dywedodd Dr Chris North, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd:

“Mae eclips yn un o’r digwyddiadau seryddol mwyaf dramatig, ac yn werth ei weld. Er na fyddwn yn gallu gweld yr eclips llawn yng Nghaerdydd, bydd yr eclips rhannol yn hynod drawiadol – hyd yn oed drwy haen denau o gwmwl.”

I ddathlu’r digwyddiad prin hwn, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd yn cynnal cyfres o sgyrsiau ar nos Iau 19 Mawrth o 7.00pm i 9.30pm. Bydd aelodau o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhoi sgyrsiau am yr Haul, a’r hyn y gallwn ei ddysgu o’r eclips.

Mae mynediad am ddim, a bydd y sgyrsiau yn addas i oed 12+.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

– Diwedd –

Nodiadau i Olygyddion:

 

  • Er bod y Lleuad yn cylchdroi o gwmpas y Ddaear unwaith bob mis, mae’n gwneud hynny ar ogwydd, felly dim ond rhyw ddwywaith y flwyddyn mae’n pasio o flaen yr Haul - a hyd yn oed bryd hynny, dim ond ychydig rannau o’r ddaear fydd yn ei weld a hynny am gyfnod byr. Y tro diwethaf i’r DU weld eclips llawn (y Lleuad yn cuddio’r Haul yn gyfan gwbl) oedd Awst 1999.

 

  • Rhybudd diogelwch

Gall edrych yn uniongyrchol ar yr Haul fod yn beryglus.

PEIDIWCH ag edrych ar yr Haul heb warchod eich llygaid. Peidiwch edrych drwy offer optegol (telesgop, sbienddrych, camera) os nad yw wedi cael ei addasu’n briodol. Gall hyd yn oed “sbectolau solar” beri niwed difrifol i’r llygaid os ydynt wedi’u difrodi. Gwnewch yn siŵr eu bod mewn cyflwr da cyn eu defnyddio, a goruchwylio plant pan maent yn eu defnyddio.Gallai ffilmio neu dynnu llun o’r Haul gyda chamera digidol neu gamera ffôn ddifrodi’r camera.

  • Mae’r Sefydliad Ffiseg yn gymdeithas wyddonol flaenllaw. Rydym yn gorff elusennol sydd â dros 50,000 o aelodau ar draws y byd, yn cydweithio er mwyn hybu addysg, ymchwil a gwaith ffisegol.

Rydym yn ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o werth ffiseg a, trwy IOP Publishing, rydym yn flaenllaw ym maes cyhoeddiadau gwyddonol proffesiynol.

Ym mis Medi 2013, cafodd ein hymgyrch godi arian gyntaf ei lansio. Mae’r ymgyrch, Opportunity Physics, yn gyfle i chi gefnogi ein gwaith. Ewch i www.iop.org am fanylion, a dilynwch ni ar @physicsnews.