Datganiadau i'r Wasg

Disgyblion yn darganfod Byd Rygbi Cymru

Heno (dydd Gwener 27 Mawrth, 6pm) bydd disgyblion Ysgol Pen y Bryn yn Abertawe yn lansio arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae’r disgyblion oed uwchradd wedi bod yn brysur dros y 10 mis diwethaf yn cyfweld chwaraewyr, hyfforddwyr, tirmyn a chefnogwyr i ddysgu mwy am fyd y bêl hirgron yng Nghymru.

Wrth ymchwili mae nhw wedi ymweld â phedair stadiwm y rhanbarthau, mynychu sesiynau hyfforddi a chyfweld sêr y tîm cenedlaethol gan gynnwys Sam Warburton, Jamie Roberts, Shane Williams, James Hook a Non Evans.

Bydd gwaith y disgyblion yn cyfrannu at ennill cymhwyster menter Agored Cymru.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn lansio’r arddangosfa hon, yma yn yr Amgueddfa,” meddai’r Swyddog Arddangosfeydd, Andrew Deathe. “Rydyn ni’n cydweithio’n rheolaidd gydag Ysgol Pen y Bryn ac mae nhw wastad wedi cynhyrchu arddangosfeydd gwych. Wythnos ar ôl diweddglo anhygoel i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ac wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd yn y r hydref, mae’n gyfle gwych i ddathlu rygbi CYmru gyda’r ysgol.” 

Cynhelir y lansiad am 6pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Gwener 27 Mawrth 2015. 

Dangosir yr arddangosfa, Byd Gwaith: Rygbi tan 31 Mai 2015 yn Oriel y Wal Wen. Bydd yn dychwelyd i’r Amgueddfa ym mis Medi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.