Datganiadau i'r Wasg

Fflach Amgueddfa am feicio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Pedal Power ac Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i greu amgueddfa arbennig am feicio fydd yn ymddangos y penwythnos hwn, ddydd Sul 29 Mawrth o 10am-5pm, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Caiff ymwelwyr gyfle i weld beic ‘Penny Farthing’ o gasgliad yr amgueddfa, a dau o’r beiciau arbennig y mae Pedal Power yn eu llogi i blant ac oedolion anabl sy’n eu galluogi i ymarfer corff a mwynhau beicio ar Lwybr Taf neu drwy barciau prydferth y ddinas.

Mae llawer o ffotograffau, storïau a gwrthrychau emosiynol ar y thema ‘Fy Stori Feicio’ wedi eu casglu’n barod drwy weithdai fflach amgueddfa yng nghaffi Pedal Power, a byddant yn cael eu harddangos fel rhan o’r achlysur.

Er mwyn annog y cyhoedd i gymryd rhan, mae gwahoddiad i ymwelwyr sydd â straeon diddorol am feicio ddod a chyfraniadau gyda nhw ar y diwrnod, neu eu gadael ym mhencadlys Pedal Power yn ardal Pontcanna, Caerdydd.

Gall gwrthrychau fod yn fedalau, yn glychau neu’n grysau-t - pwy a ŵyr?

Mae Pedal Power yn un o bartneriaid cymunedol allweddol Amgueddfa Cymru yn y project Our Museum, sydd wedi ei ariannu gan Paul Hamlyn, ac sy’n ceisio annog mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol i wirfoddoli yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Dywedodd Sian Donovan, Dirprwy Gyfarwyddwr Pedal Power: “Y rhan bwysicaf i ni yw cael pobl i siarad a rhannu eu straeon.

“Rydym yn ceisio cael gwared ar unrhyw rwystrau i feicio, ac mae cael croeso a bod yn rhan o rywbeth yn ychwanegu at brofiad positif Pedal Power – mae wedi bod yn hwyl garw!

“Mae wir yn gyffrous cael bod mewn gofod mor eiconig yn ein prifddinas. Yn gyntaf daeth yr Amgueddfa at Pedal Power, nawr rydym yn dod â Pedal Power i’r Amgueddfa. Rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r ddwy ochr i’r bartneriaeth gan arwain at fwy o syniadau gwreiddiol a chyffrous.”

Dywedodd Owain Rhys, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfranogiad Cymunedol Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch o’n gwaith yn cefnogi grwpiau cymunedol lleol a chenedlaethol, ac rydym yn benderfynol o’u cynnwys ymhob agwedd o’n gwaith yn y dyfodol.

“Mae’r gwrthrychau, lluniau a’r straeon hyn yn adlewyrchu’r bobl go iawn y mae Pedal Power yn eu cefnogi, ac yn pwysleisio budd beicio ar gyfer gwella iechyd a lles.”

 

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn rheoli saith amgueddfa ar draws Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

 

– Gorffen –

Nodiadau i olygyddion:

 

  • Mae Pedal Power yn elusen feicio unigryw, wedi ei seilio yng Nghaerdydd, sy’n ceisio galluogi pawb i fwynhau buddion beicio. O’r herwydd, yn ogystal â llogi beiciau arferol, mae ganddynt amrywiaeth eang o feiciau, treiciau ac offer ychwanegol i helpu plant ac oedolion anabl i ymarfer corff a mwynhau parciau prydferth Pontcanna.

        Mwy o fanylion ar www.cardiffpedalpower.org  neu ffôn: 02920 390713

-       cefnogi a datblygu amgueddfeydd ac orielau i roi gofynion, gwerthoedd, dyheadau cymunedol a chydweithio actif wrth galon eu gwaith;

-       cynnwys cymunedau ac unigolion fel rhan greiddiol o brosesau gwneud penderfyniadau a gweithredu’r penderfyniadau hynny;

-       gwneud yn siŵr fod amgueddfeydd ac orielau yn chware rhan effeithiol yn natblygiad sgiliau cymunedol drwy wirfoddoli, hyfforddi, prentisiaethau, ac ati;

-       rhannu modelau newydd rhagorol gyda’r sector amgueddfeydd ehangach