Datganiadau i'r Wasg

Cyfle i ddysgu am fywyd a gwaith gŵr angof esblygu yn Oriel y Parc

Mae arddangosfa sy’n cynnwys gwaith arloesol Cymro arbennig, a ddarganfu'r broses esblygu drwy ddetholiad naturiol ochr yn ochr â Charles Darwin, i’w gweld yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi.

Bydd Wallace: Gŵr Angof Esblygiad? yn canolbwyntio ar y gŵr angof, Alfred Russel Wallace, un o’r ffigyrau blaenllaw ym maes esblygu yn y 1800au, gŵr a gafodd ei ddisgrifio unwaith fel ‘un o fawrion olaf Oes Fictoria’.

Roedd Wallace yn ŵr amryddawn; yn fforiwr mentrus, yn naturiaethwr gwych, yn ymgyrchydd cymdeithasol ac yn sylwebydd gwleidyddol. Bu farw yn 1913 yn 90 mlwydd oed. Bydd rhai o sbesimenau hanes naturiol gwych o Amgueddfa Cymru – sy’n cynnwys chwilod, gloÿnnod byw, adar a mwy – yn tynnu sylw at waith y gŵr anhygoel hwn.

Dywedodd Bryony Dawkes, Curadur Prosiectau Partneriaeth Amgueddfa Cymru: “Mae’n bleser gennym ddod â’r arddangosfa hon i chi eto. Cafodd ei harddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd yn 2013 – canmlwyddiant Wallace.

“Er mwyn ategu’r arddangosfa, ceir arddangosfa newydd o waith Graham Sutherland, sy’n dangos sut mae hanes naturiol a daeareg Sir Benfro wedi dylanwadu cymaint ar ei waith o’r 1930au ymlaen.

“Roedd Wallace hefyd yn un o’r gwyddonwyr cyntaf i fynegi pryderon ynghylch effaith amgylcheddol gweithgarwch dynol – thema sy’n cael ei chyfleu mewn ffordd gyfredol iawn yng ngwaith Artist Preswyl Oriel y Parc, Mike Perry, yn ei gyfres Môr Plastig, sydd i'w gweld yn Oriel y Parc tan 17 Ebrill".

Ganed Wallace yn Llanbadog, ger Brynbuga yn 1823, a chafodd ei addysg yn Hertford. Dychwelodd i Gymru yn 1845 a threuliodd sawl blwyddyn yn ardal Castell Nedd, yn gweithio fel pensaer a syrfëwr.  Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei frwdfrydedd dros hanes naturiol, o dan ddylanwad gwaith naturiaethwyr o fri fel Charles Darwin, Charles Lyell a Robert Chambers.

Yn sgil hyn, cafodd Wallace ei ysbrydoli i gychwyn ar antur fawr, gan deithio i Frasil i fforio’r Amazon a chasglu sbesimenau gyda’r naturiaethwr Henry Bates.

Ei fwriad oedd gwerthu rhywfaint o’r sbesimenau pryfed ac anifeiliaid i gasglwyr yn ôl yn y DU, ond cafwyd trychineb; aeth y llong yr oedd arni ar dân a suddo, a chollodd y rhan fwyaf o’i gasgliad.

Yn ôl yn Llundain, ysgrifennodd Wallace nifer o bapurau academaidd a llyfrau, a oedd yn caniatáu iddo fynd yn ôl i deithio. Rhwng 1854 ac 1862, teithiodd drwy Ynysfor Maleia - taith a fyddai'n ysgogi ac yn llunio ei ffordd o feddwl ymhellach, nid yn unig ynghylch damcaniaeth esblygiadol, ond ynghylch dosbarthiad daearyddol anifeiliaid, a elwir y dyddiau hyn yn fiodaearyddiaeth.  

Yn 1858, anfonodd erthygl a oedd yn nodi ei syniadau ynghylch esblygu, at Darwin. Arweiniodd hyn at gyflwyno papurau’r ddau ar y cyd i Gymdeithas Linnean a dechrau’r ddamcaniaeth esblygu drwy ddetholiad naturiol.

Daeth Wallace yn aelod enwog o’r sefydliad gwyddonol, ac er ei fod yn ei chael yn anodd yn ariannol, daliodd ati i gyhoeddi’n eang ac roedd ganddo bob amser ddiddordeb mewn syniadau anghonfensiynol.

Yn ddiweddarach yn ei fywyd, roedd y ffaith ei fod yn cefnogi Ysbrydegaeth yn rhoi straen ar ei berthynas â’r sefydliad gwyddonol. Roedd hefyd yn ymgyrchydd cymdeithasol ac roedd diwygwyr cymdeithasol nodedig fel Robert Owen wedi dylanwadu arno yn ystod ei flynyddoedd cynnar.

Bydd arddangosfa Wallace: Gŵr Angof Esblygu? i’w gweld yn Oriel y Parc tan 25 Tachwedd 2015.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Hefyd yn Oriel y Parc, ceir Canolfan i Ymwelwyr, Stiwdio ar gyfer Artist Preswyl, Ystafell Ddarganfod lle cynhelir llu o weithgareddau celf a natur i’r teulu oll, Tŵr lle cynhelir arddangosfeydd o gelfyddyd leol a dosbarthiadau cymunedol, a chaffi.

Oriel y Parc yw Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.Agorodd yr atyniad yn 2008, ac mae’n oriel o safon fyd-eang, rhad ac am ddim, sy'n arddangos gwaith artistiaid yn dehongli’r dirwedd, o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru.

Ceir mynediad am ddim i Oriel y Parc ac amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.