Datganiadau i'r Wasg

Hela ffosilau gydag Amgueddfa Cymru yn Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd

Mae’r haul yn tywynnu a’r coed yn blaguro – mae’n wanwyn o’r diwedd! Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig i’w wneud yng Nghaerdydd, beth am ddod draw i faeddu’ch dwylo a dysgu am natur? Yn Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd, Gwener 17 – Sul 19 Ebrill, bydd gan Amgueddfa Cymru stondin lle bydd cyfle i bawb roi cynnig ar chwilio am ffosilau ac adnabod planhigion trofannol.

Bydd y stondin yn cynnwys rhai o ddarluniau botanegol gwych yr Amgueddfa, ochr yn ochr â rhai o ffrwythau a blodau lliwgar y trofannau (diolch i Waitrose Pontprennau a PJS Flowers). Bydd cyfle i ymwelwyr o bob oed ddarganfod sut y daeth planhigion fel coco a choffi i Brydain yn wreiddiol ar fordeithiau.

Gydag ychydig o amynedd, gellir dod o hyd i greigiau, mwynau a ffosilau yn gymharol hawdd. Bydd gwyddonwyr yr Amgueddfa yn rhoi cymorth i ymwelwyr o bob profiad ddod o hyd i ffosilau anhygoel oedd yn tyfu 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd gan Gymru hinsawdd drofannol!

Bydd Arthur, neidr filtroed gynhanesyddol yr Amgueddfa, yn archwilio tirwedd Carbonifferaidd, a bydd arddangosiad hefyd o drychfilod anhygoel ddaeth i Brydain ar longau cargo. Yr uchafbwynt fydd ymddangosiad arbennig gan darantela diddorol gafodd sylw newyddion y BBC yn ddiweddar.

Dywedodd Chris Cleal o adran Gwyddorau Naturiol Amgueddfa Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw i fod yn rhan o’r Ŵyl Flodau Frenhinol eto eleni. Mae’n gyfle i ymwelwyr â’r sioe gael dod i wybod am yr amrywiaeth o blanhigion cyffrous sy’n tyfu yn y trofannau, yn ogystal â’r ffosilau o blanhigion oedd arfer tyfu yng Nghymru. Gyda chymorth darluniau botanegol o’r ddeunawfed ganrif a sbesimenau o’r casgliad economaidd, byddwn yn esbonio sut y cafodd bwydydd cyffredin fel te, pinafalau a siocled eu darganfod yn y trofannau.”

Mae arddangosfa Mi wela i... Natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am natur neu am gael golwg fanwl ar lond lle o wrthrychau hanes natur dan ficrosgop. Mae’r arddangosfa ymarferol hon yn fodd i ymwelwyr o bob oed ddeall sut mae arsylwadau gwyddonwyr yn arwain at ddarganfyddiadau newydd, yn gyfle i brofi sut oedd naturiaethwyr Oes Fictoria yn darlunio byd natur a sut mae technoleg fodern yn galluogi gwyddonwyr i greu lluniau 3D.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

Diwedd

 

Nodiadau i Olygyddion

Mae manylion am y Sioe Flodau ar wefan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol: https://www.rhs.org.uk/shows-events/rhs-flower-show-cardiff/plan-your-visit