Datganiadau i'r Wasg

Bregus? yw arddangosfa cerameg gyfoes gyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd prydferthwch ac amrywiaeth cerameg gyfoes yn cael llwyfan hir-ddisgwyliedig mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 18 Ebrill a 4 Hydref 2015. Mae cerameg yn gyfrwng cyfoes bywiog a chymhleth, a nod Bregus? yw amlygu hyn drwy arddangos cerameg gyfoes o gasgliadau Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, gweithiau comisiwn newydd a benthyciadau pwysig.

Dan nawdd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams, canolbwynt Bregus? yw ystod a phrydferthwch arferion cerameg modern. Cynhelir yr arddangosfa yn chwe o orielau celf gyfoes Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’r gobaith o ennyn chwilfrydedd ymwelwyr a thanio trafodaeth.

 

Yn ogystal â gweithiau allweddol o gasgliadau Amgueddfa Cymru gan artistiaid adnabyddus fel Pablo Picasso, Edmund de Waal, Elisabeth Fritsch, Julian Stair a Betty Woodman, bydd gwaith rhai o artistiaid cerameg mwyaf blaenllaw Cymru heddiw yn cael ei arddangos. Comisiynwyd gweithiau newydd gan Lowri Davies, Adam Buick, Walter Keeler a Claire Curneen ar gyfer yr arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Derek Williams, sefydliad sydd â’i gasgliad ar fenthyciad hirdymor i Amgueddfa Cymru. Ategir y gweithiau newydd gan ffilmiau dogfen wedi’u comisiynu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston gyda’r cyfanwaith yn drawstoriad eang o arferion cerameg cyfoes.

 

Yn yr arddangosfa hefyd bydd atyniadau mentrus, rhyngweithiol lle gall ymwelwyr ryngweithio’n uniongyrchol â’r gwaith celf – yn eu plith tri gwaith gosod cyffrous gan artistiaid adnabyddus; Phoebe Cummings, Clare Twomey a Keith Harrison. Gall y gynulleidfa gyfrannu’n uniongyrchol at ddau o’r gweithiau yma gan ehangu gorwelion ymwelwyr a gwneud iddynt feddwl o’r newydd am gerameg.

 

Mae Phoebe Cummings wedi defnyddio’r arddangosfa fel cyfle i ehangu ar bosibiliadau clai i adrodd stori. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o amryw gasgliadau Amgueddfa Cymru – o sbesimenau botaneg i borslen y cyfandir – mae wedi llunio ‘rhywogaeth’ wahanol mewn tirlun newydd sbon. Drwy ddefnyddio golygfeydd bach a maint llawn, mae wedi creu byd arallfydol addurniadol o glai crai.

 

Canolbwynt gwaith Clare Twomey – Ymwybod/Cydwybod – yw creu a dinistrio’r gwaith ei hun. Drwy gerdded dros un o’i gweithiau, yr ymwelydd ei hun sy’n dod â’r gwaith yn fyw ac yn gyfrifol am ei ddinistrio.

 

Mud yw cyfraniad Keith Harrison – gwaith sy’n rhan o ymateb i broject sain a chlai arall o’r enw Bustleholme. Collodd Keith ran o’i glyw yn barhaol o ganlyniad i’r arbrawf hwnnw, ond dechreuodd feddwl sut fyddai system sain yn perfformio petai’r sain yn hollol fewnol ac yn cael ei ddatgelu’n raddol drwy chware pytiau byr dros gyfnod hir.

 

Cynhelir rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau addysg ffurfiol ac anffurfiol yn ystod yr arddangosfa gan gynnwys teithiau awr ginio, sgyrsiau, gweithdai cerameg a chreu clai i’r teulu cyfan a chyfres newydd o nosweithiau cerddoriaeth.

 

Dywedodd Andrew Renton, Pennaeth Celf Gyfoes, Amgueddfa Cymru:

“Hon fydd yr arddangosfa cerameg gyfoes fwyaf uchelgeisiol erioed i’w chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mewn gwirionedd, dyma’r project cerameg gyfoes mwyaf a welwyd yng Nghymru gyfan.

 

“Yn dilyn llwyddiant arddangosfeydd o waith Edmund de Waal ac Elizabeth Fritsch a Quietus Julian Stair, mae’r arddangosfa hon yn adeiladu ar enw da Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel lleoliad pwysig sy’n dangos a dehongli cerameg gyfoes.

 

“Arddangosfa newydd sbon yw Bregus? sy’n taflu goleuni newydd ar gerameg gyfoes, gan annog ymwelwyr i gyfrannu’n uniongyrchol at rai o’r gweithiau yn yr orielau a gwneud iddynt feddwl eto am gerameg fel cyfrwng cyfoes.

 

“Bydd selogion y byd cerameg yn gyfarwydd â nifer o’r gweithiau yn yr arddangosfa, ond i eraill bydd yn brofiad newydd, annisgwyl ac yn gyfle i brofi cerameg o’r newydd. Paratowch am sioc!”

 

Bydd arddangosfeydd a’r rhaglen weithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn derbyn cefnogaeth chwaraewyr People’s Postcode Lottery.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa. 

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

– Diwedd –

Notes to Editors:

 

Amgueddfa Cymru’s collection

 

Amgueddfa Cymru holds one of the world’s major ceramics collections, both historic and contemporary, and including an outstanding collection of European porcelain from the 18th century. There is also a vast collection of pottery and porcelain from Swansea, Llanelli, Nantgarw as well as works by Pablo Picasso and many contemporary makers.

 

 

Derek Williams Trust commissioned Wales-based artists

 

Adam Buick, who lives and works in Pembrokeshire, will display his work inspired by the coastal landscape. The main focus of his practice is the different expressions of the classic Korean Moon Jar form.

 

Lowri Davies, whose Welsh heritage is her major source of inspiration, has chosen to explore lithophanes – a two dimensional relief plaques which are lit from behind – for this commission.

 

Walter Keeler, who is based in Monmouthshire, questions the use of the tableware, such as a teapot or bowl, and expands this to incorporate decorative embellishment.

 

Claire Curneen, who lives in Cardiff, focuses on the sculptural use of clay and explores themes of saints, angels and mythology through her figures.