Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysorau ger Caerdydd

Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd, y Canol Oesoedd a chyfnod y Tuduriaid a ganfuwyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn drysorau

Heddiw (22 Ebrill 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg bod wyth darganfyddiad o ddiwedd yr Oes Efydd (tua 1000CC-800CC), y Canol Oesoedd (5ed i’r 15fed ganrif) a chyfnod y Tuduriaid (16eg ganrif) yn drysorau.

Yn eu mysg mae celc o 17 ceiniog ganoloesol a ddarganfuwyd gan Mr Roland Mumford ym mis Rhagfyr 2012 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Gwenfô.

Yn y celc mae pum ceiniog aur a 12 ceiniog arian ac maent yn cynnwys hanner-nobl, pedwar chwarter-nobl a darnau grôt (4 ceiniog) o gyfnod Edward III (1327-77). Credir bod y celc yn dyddio o tua 1365-1370.

Y geiniog hynaf i gael ei darganfod gan Mr Mumford ar yr achlysur hwn yw ceiniog o gyfnod Edward I o’r 1290au, ac mae’r ceiniogau diweddaraf, yn aur ac arian, yn dyddio o’r 1360au.

Cynhaliwyd ymchwiliad archaeolegol o’r safle gan archaeolegwyr Amgueddfa Cymru a PAS Cymru, gyda chefnogaeth y tirfeddiannwr a chymorth Mr Mumford. Gan na ddaethpwyd o hyd i olion amlwg unrhyw anheddiad, mae’n ddirgelwch sut y cafodd y swm sylweddol hwn o arian ei adael neu ei golli.

Gwerth y celc ar y pryd fyddai 13s 4d sydd yn union un marc, sef yr uned gyfrifo fwyaf cyffredin yn y cyfnod. Gyda chyflogau yn ddim mwy nag ychydig geiniogau'r dydd, roedd hyn yn swm sylweddol o arian - tua deufis o gyflog. Ychydig o bobl fyddai’n gallu cael gafael ar y fath arian.

Cafodd celc arall o ddau arteffact efydd, y credir eu bod yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd, hefyd ei gadarnhau fel trysor.

Mae’r celc hwn yn cynnwys bwyell socedog asennog gyfan, math Croxton, a darn o fwyell socedog, math De Cymru. Cawsant eu darganfod yng Nghymuned Llancarfan, Bro Morgannwg, gan Mr David Harrison. Cafodd yr arteffactau eu darganfod gyda’i gilydd ym mis Hydref 2013, wrth i Mr Harrison ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm.

Roedd y darn o fwyell wedi cael ei osod yn sownd wrth soced y fwyell gyfan cyn eu claddu a chawsant eu darganfod wrth ymyl ei gilydd mewn cornel cae.

Mae’n debyg y byddai celciau o fwyeill ac arfau eraill yn cael eu claddu yn ystod seremonïau cymdeithasol a defodol, yn ôl credoau’r oes. Tua diwedd yr Oes Efydd bu cynnydd sylweddol yn y nifer o gelciau o fwyeill gafodd eu claddu yn ne ddwyrain Cymru.

Roedd curo darnau o arteffactau’n sownd wrth socedi bwyeill eraill yn ffenomen gyffredin ym Mhrydain yn y cyfnod hwn. Efallai bod hyn yn symbol o ddinistrio bwriadol neu ‘ladd’ gwrthrychau, cyn iddynt gael eu claddu.

Cafodd darganfyddiad arall, sef crogdlws aur bychan y credir ei fod yn dyddio o hanner cyntaf yr 16eg ganrif, ei gadarnhau fel trysor heddiw.

Cafodd y crogdlws ei ddarganfod yng Nghymuned Sain Dunwyd gan Mr David Hughes ar 4 Tachwedd 2011.

Mae’n cynnwys pedair soced gron, fyddai wedi cael eu defnyddio i ddal mwclis, perlau neu gemau, wedi’u clymu i blât bychan mewn siâp croes. Mae socedi’r crogdlws wedi’u haddurno â gwifren aur sy’n debyg i addurniadau dillad cyfnod y Tuduriaid. Roedd crogdlysau siâp croes yn boblogaidd iawn tua diwedd y Canol Oesoedd a dechrau cyfnod y Tuduriaid. Mae enghreifftiau mwy moethus o’r math hwn o grogdlws i’w gweld ar bortreadau brenhinol o’r Tuduriaid.

Ymysg y darganfyddiadau eraill a gadarnhawyd fel trysor heddiw mae:

  • ·         Sêl-fodrwy arian o’r 15fed neu’r 16eg ganrif. Cafodd yr arteffact ei ddarganfod gan Mr Michael Gerry ar 31 Awst 2013 tra’r oedd yn defnyddio datgelydd metel yn Y Sili.
  • ·         Modrwy aur gyda Such is my love wedi’i gerfio ar ei thu mewn. Cafodd ei darganfod gan Mr David Hughes ar 19 Ebrill 2013 ar dir yn Llanilltud Fawr. Mae patrwm blodeuog ar yr arteffact, a chredir ei fod yn dyddio o’r 16eg neu’r 17eg ganrif.
  • ·         Darn o fodrwy arian ddefosiynol. Cafodd ei ddarganfod gan Mr Mark Lambert ym mis Ebrill 2013 ar dir yn Sain Tathan. Credir bod yr arteffact yn dyddio o’r 15fed neu’r 16eg ganrif.
  • ·         Darnau o fathodyn arian ar ffurf ceiliog, gyda Si deus nobiscum (Os yw Duw gyda ni) wedi’i ysgrifennu arnynt. Cawsant eu darganfod gan Mr Mark Newbury ym mis Medi 2012 ym Mhentyrch.
  • ·         Pin arian o’r 17eg ganrif. Cafodd ei ddarganfod gan Mr Robert Lock a Mr Joseph Cartwright ym mis Awst 2011 ar dir yn Sain Tathan.

 

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru:

“Mae’r darganfyddiadau arwyddocaol hyn yn ein galluogi ni’n raddol i greu darlun manwl o sut y byddai pobl yn addurno’u hunain yng Nghymru’r Canol Oesoedd a chyfnod y Tuduriaid.

“Mae data am y gwrthrychau hyn a lle cawsant eu darganfod yn ein galluogi i gymharu ffasiwn a chwaeth yr ardal hon gydag ardaloedd eraill.”

Wedi iddynt gael eu prisio’n annibynnol, bydd y darganfyddiadau yn cael eu caffael gan Amgueddfa Cymru, gan ddefnyddio arian o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.  

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

– Diwedd –

 

 

Notes to Editors:

1. The Portable Antiquities Scheme in Wales (PAS Cymru) is a mechanism to record and publish archaeological finds made by members of the public. It has proved a highly effective means of capturing vital archaeological information, while engaging with non-traditional museum audiences and communities.

 

2. Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, in partnership with PAS Cymru and The Federation of Museums and Art Galleries of Wales (The FED), has recently received a confirmed grant of £349,000 from the Collecting Cultures stream of the Heritage Lottery Fund.

For 5 years from January 2015 – December 2019, the project Saving Treasures, Telling Stories will ensure a range of treasure and non-treasure artefacts can be purchased by accredited local and national museums in Wales. The artefacts purchased will date from the Stone Age to the seventeenth century AD.

A three year programme of Community Archaeology Projects will be delivered across Wales, working with local museums, metal-detecting clubs, local communities and target audiences.

A distinctive website will be developed for PAS Cymru and hosted on the Amgueddfa Cymru website. This will also become the focus for up-to-the-minute information about treasure and non-treasure finds reported across Wales each year. Through the projects, archaeological collecting networks will be set up and a range of training, skill-sharing, bursaries and volunteering opportunities will be delivered.

 

3. ‘Making History’. Redevelopment Project at St Fagans National History Museum.

Wales’s archaeology collections will eventually be redisplayed in new galleries at St Fagans National History Museum in Cardiff.  This will be the first time that national collections of archaeology and cultural, industrial and social history will be displayed together in an open-air museum.  The project will also see the creation of an open-air archaeology zone and the re-imagining of two buildings – an Iron Age Farm and a Medieval Prince’s Court.