Datganiadau i'r Wasg

Oes gennych chi stori grêt am rygbi yr hoffech ei rhannu?

Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd sydd ar y ffordd.

 

Wrth lansio’r gystadleuaeth heddiw yn Stadiwm y Mileniwm, ochr yn ochr â phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis a’r cadeirydd Gareth Davies, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae’n gyffrous lansio’r gystadleuaeth ffantastig hon sy’n dwyn ynghyd holl elfennau fy mhortffolio – sef diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth! Trwy annog pobl ifanc i gofnodi eu profiadau rygbi yng Nghymru, boed nhw’n chwarae, yn gwylio neu’n clywed eu ffrindiau a’u teuluoedd yn siarad amdano – rydym yn anelu at greu casgliad o storïau sy’n ffenestr siop i rygbi yng Nghymru o lawr gwlad hyd at berfformiadau’r tîm cenedlaethol.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol a llythrennedd mewn ffordd atyniadol a hwyliog. Mae adrodd storïau yn ffordd wych i bobl ifanc adael i’w dychymyg dyfu a dysgu mwy amdanynt eu hunain a’r byd o’u cwmpas, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau.”

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies:

“Rwy’n dishgwl ymlaen yn fawr at ddarllen y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous hon. Fe wyddom fod rygbi yn chwarae rhan arbennig yn y seice cenedlaethol yng Nghymru a’r gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn manteisio ar boblogrwydd y gêm ymhlith plant ysgol a’n cynorthwyo i ymestyn mas at y rhai hynny sydd eto i ymddiddori yn y gêm.”

Mae tri chategori yn y gystadleuaeth a’r thema gyffredinol yw rygbi yng Nghymru:

  • ·        Barddoniaeth ar gyfer 7-9 mlwydd oed

Rhaid i’r cerddi beidio â bod dros 250 gair

  • ·        Stori Fer ar gyfer 10-12 mlwydd oed

Rhaid i’r storïau byrion beidio â bod dros 500 gair

  • ·        Adrodd storïau digidol ar gyfer 13-16 mlwydd oed

Rhaid i’r ffilmiau beidio â bod dros 3 munud a gallant gynnwys ffotograffau, fideo, animeiddiad, sain, cerddoriaeth, testun, a llais naratif.

 

Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel arbennig o feirniaid sy’n cynnwys enwogion rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr ar y cyfryngau ac fe gyhoeddir enwau’r rhai fydd yn y rownd derfynol ddechrau Medi.

 

Bydd storïau’r rhai sydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd, Cofroddion a’r Bêl Hirgron yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r 8fed Medi a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa ar 16 Medi 2015 i gasglu eu gwobrau.

Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol yn Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:

“Mae hyn yn ffordd wych i bobl ifanc rannu eu hangerdd dros y gêm. Mae rygbi a llenyddiaeth yn rhannau pwysig o draddodiad a diwylliant Cymru.

“Rydym wrth ein boddau yn cynnal yr arddangosfa hon a fydd yn cyfuno’r ddau beth o flaen cystadleuaeth mor fawreddog.”

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad o arteffactau rhyfeddol, memorabilia ac eitemau o bwys hanesyddol sy’n gysylltiedig â Chwpan Rygbi’r Byd o archifau Undeb Rygbi Cymru, yn eu plith dant morfil wedi’i gerfio â llaw o Tonga a pholyn totem unigryw o Ganada.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal wyth o gemau yng Nghwpan Rygbi’r Byd – gan gynnwys dwy o gemau Cymru – yn Stadiwm y Mileniwm a bydd yr arddangosfa yn agor bedwar diwrnod yn unig cyn y gêm gyntaf yng Nghaerdydd (Cymru yn erbyn Wrwgwái ar 20 Medi).

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis:

“Mae’r arddangosfa hon yn addo rhoi cipolwg hynod ar gyfraniad Cymru at Gwpanau’r Byd dros y blynyddoedd, ond hefyd hanes unigryw y twrnamaint yn gyffredinol.”

Fe fydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn trefnu gweithgareddau i gynorthwyo pobl ifanc i feddwl am syniadau ar gyfer eu storïau neu gerddi, i ddatblygu sgiliau i’w cynorthwyo i greu storïau digidol ac arddangos eu casgliadau treftadaeth rygbi a chwaraeon. Roedd plant Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Adamsdown yn bresennol yn y lansiad heddiw cyn mynd ymlaen i Amgueddfa Stori Caerdydd ble byddant yn edrych ar hanes rygbi yn y ddinas a Chwpan Rygbi’r Byd. 

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 20 Gorffennaf 2015 ac i gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys y telerau ac amodau llawn, ewch i: www.rugbystories.wales ac ymunwch â’r sgwrs ar #storïaurygbi

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Nicola Williams / nicola.williams@wrexham.gov.uk / 01978 722988

Jane Purdie / jane.purdie@wrexham.gov.uk / 01978 722987

 

  • ·      Mae Rhaglen Dreftadaeth ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015 a thu hwnt yn cael ei chynllunio a’i threfnu gan CyMAL, Undeb Rygbi Cymru, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Casgliad y Werin Cymru a Thîm Datblygu Cynulleidfa Cymru Gyfan.
  • ·      Bydd arddangosfa ddwyieithog dros dro yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan ddechrau ym mis Medi 2015 i gyd-daro â Chwpan Rygbi’r Byd. Fe fydd yn cynnwys casgliadau Undeb Rygbi Cymru a chasglwyr preifat, a bydd yn canolbwyntio ar Gwpanau’r Byd blaenorol a chyfraniad Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd trwy gyfrwng casgliadau diddorol, atyniadol, memorabilia, storïau a delweddau.
  • ·      Bydd arddangosfa ddigidol ddwyieithog i gyd-fynd â’r arddangosfa arall yn cael ei chreu hefyd, dan arweiniad Casgliad y Werin Cymru. Byddant yn gweithio gyda Chlwb Rygbi Casnewydd i greu microwefan ar Gasgliad y Werin Cymru, a digideiddio eitemau a darparu hyfforddiant yn ôl yr angen.
  • ·      Mae Tîm Datblygu Cynulleidfa Cymru Gyfan yn trefnu cystadleuaeth ddwyieithog genedlaethol ar gyfer pobl ifanc, yn seiliedig ar thema rygbi ac wedi’i chysylltu â darn o ysgrifennu creadigol neu adrodd storïau digidol.

Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei ddewis gan CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Llywodraeth Cymru i dderbyn grant i gyflwyno elfen Datblygu Cynulleidfa ar gyfer 2015-2016.

 

Mae CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn is-adran polisi Llywodraeth Cymru, wedi’i lleoli yn Aberystwyth ac mae’n gyfrifol am ddatblygu polisi ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol yng Nghymru a chynghori’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.  Mae gan Amgueddfa Cymru – National Museum Wales saith amgueddfa ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.