Datganiadau i'r Wasg

Helfa Lofrudd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull yn y Neuadd Fawr i weld arddangosfa ddiemwntau newydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r diemwnt mwyaf a’r harddaf yn y byd ar fin cael ei ddadorchuddio, ac mae’r cyffro’n llenwi’r awyr. Yna, allan o nunlle, daw sgrech annaearol i dorri’r awyrgylch... mae corff wedi cael ei ddarganfod yn yr Amgueddfa. Caiff pob drws ei gloi – mae’r llofrudd yn yr adeilad yn rhywle. Rhaid datrys y dirgelwch cyn iddo daro eto! All gwyddonwyr yr Amgueddfa addasu eu sgiliau i ddarganfod beth ddigwyddodd, a phwy oedd yn gyfrifol?

Bydd cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan yn Helfa Lofrudd gyntaf erioed Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd brofi eu sgiliau ditectif mewn noson o noir a dirgelwch ar 19 Mai, 6.30pm tan 10pm. Mae tocynnau’n £25 ac yn cynnwys bwyd ac un diod. Rhaid archebu ymlaen llaw – oedolion yn unig. Ewch i www.ticketlineuk.com neu ffoniwch (029) 2023 0130. Bydd bar ar gael drwy gydol y noson.

Bydd cyfle i brofi awyrgylch yr orielau hanes natur liw nos, a gweithio gyda gwyddonwyr yr Amgueddfa i ddadansoddi’r cliwiau a datrys y dirgelwch.

Dywedodd Katie Mortimer-Jones, Uwch Guradur y Gwyddorau Naturiol, Amgueddfa Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at Helfa Lofrudd gyntaf yr Amgueddfa. Rydym yn hyderus y bydd pob ditectif yn mwynhau’r diweddglo dramatig ac yn cael noson wefreiddiol yn yr Amgueddfa.

Mae angen help arnom i groesholi pobl, chwilio am gliwiau yn yr orielau a dod o hyd i’r llofrudd. Ymunwch â ni i weld os mai chi fydd y Poirot, Sarah Lund neu’r DCI Matthias nesaf!”

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru. 

  

– Diwedd –