Datganiadau i'r Wasg

Ffair ‘vintage’ a chanu gwerin yn Amgueddfa’r Glannau dros y penwythnos

Bydd cyfle i gamu’n ôl i’r 30au yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y penwythnos (Sul 10 Mai) wrth i Drysorfa ‘Vintage’ a Gwaith Llaw Mis Mai gael ei chynnal am y trydydd gwaith.

Calan Mai - DnA

Marchnad y Marina

Wedi’i drefnu ar y cyd â Smock Vintage, bydd dros 30 o stondinau yn gwerthu’r gorau o ddillad y 1930au a’r 1950au ynghyd â gwaith llaw mwy diweddar wedi’i ysbrydoli gan ddillad y cyfnod.

Dywedodd Miranda Berry, Swyddog Digwyddiadau’r Amgueddfa: “Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal y digwyddiad arbennig hwn eto eleni, mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych ac yn gyfle i ddod o hyd i ambell ddilledyn arbennig.”

Hefyd ar ddydd Sul, bydd cerddoriaeth fyw gan y ddeuawd werin DnA, yn rhan o’r perfformiadau Calan Mai fydd yn digwydd drwy gydol mis Mai. Bydd y fam a’r ferch Delyth ac Angharad Jenkins yn swyno’r dorf gyda’r delyn a’r ffidl am 12.30 a 2pm.

Ychwanegodd Miranda: “Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau dydd Sul yn denu llwyth o ymwelwyr i fwynhau’r drysorfa ‘vintage’, ond hefyd i wrando ar gerddoriaeth werin wych gan DnA a chrwydro o gwmpas yr Amgueddfa ei hun.”

Y tu allan i’r Amgueddfa – yn Sgwâr Dylan Thomas – bydd Marchnad y Marina yn cael ei chynnal o 10am-3pm, yn gwerthu amrywiaeth o fwyd ffres blasus a chrefftau cartref cain.