Datganiadau i'r Wasg

Yn Eisiau: Eich hoff wrthrych

Amgueddfa Cymru yn annog ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd Caerffili i helpu i greu Amgueddfa Dros-Dro   

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerffili (25-30 Mai 2015), bydd Amgueddfa Cymru yn annog ymwelwyr y maes i ddod â gwrthrych o’u dewis nhw i’w arddangos mewn Fflach Amgueddfa (#fflachamgueddfa).

 Aelodau o’r cyhoedd a gofalwyr ifanc Barnardo’s Caerffili fydd yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys a themâu’r Fflach Amgueddfa, fydd yn cael cartref ar stondin Amgueddfa Cymru am chwe diwrnod.

“Rydyn ni’n gofyn i ymwelwyr ddod â gwrthrych gyda nhw sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw, neu sydd â rhyw hanes y tu ôl iddo,” meddai Owain Rhys, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfranogiad Cymunedol Amgueddfa Cymru, un o arweinwyr y prosiect.  

 “Gall fod yn degan, yn llyfr, yn grys-t neu hyd yn oed stori ddoniol! Dyma gyfle i bawb fod yn rhan o greu amgueddfa unigryw yn Eisteddfod yr Urdd.”

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cael eu hannog i drydar am eu rôl yn y prosiect gan ddefnyddio’r hashnod #fflachamgueddfa, fel bod pawb yn gallu dilyn datblygiad y prosiect a’r straeon sy’n cael eu rhannu.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr â stondin Amgueddfa Cymru greu bocs atgofion a chwilt ar y thema ‘Fy hoff atgof i…’ a chreu map o ardal Caerffili gyda’r cartwnydd Huw Aaron. Mae hwn yn broject ar y cyd â Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llenyddiaeth Cymru.

Gan barhau gyda’r syniad o rannu atgofion, mae’r sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen yn gwahodd pobl leol i ymweld â byncer o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar faes yr Eisteddfod, i gofnodi hanes, atgofion ac ymatebion teuluoedd i’r gwrthdaro. Mae fan Celf ar y Blaen, fydd drws nesaf i stondin Amgueddfa Cymru wedi cael ei thrawsnewid i fod yn stiwdio symudol gydag arteffactau a chofroddion i godi ymwybyddiaeth o ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.  Mae’r byncer yn rhan o "Rhyfel Byd Cyntaf: Atgofion o'r Cymoedd" – project a dderbyniodd £10,000 yn ddiweddar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Diwedd