Datganiadau i'r Wasg

Cerddoriaeth werin ac anhrefn metal morol yn Amgueddfa’r Glannau dros hanner tymor

Bydd digon o hwyl i’r teulu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros hanner tymor.

The Blowfish

Bronwen Lewis

Byddwn yn dechrau gyda’r digwyddiad blynyddol Cyfnewid Llyfrau a Phlanhigion (Sad 23 a Sul 24 Mai, 11am-4pm) gydag Oxfam Cymru. Bydd cyfle i ymwelwyr gael gwared â hen lyfrau a dod o hyd i rai newydd yn eu lle, yn ogystal â ffeirio planhigion er mwyn eu plannu cyn yr haf. Bydd gweithgareddau ymarferol i deuluoedd o 12.30 i 3.30pm, gyda chyfle i addurno pot blodau a phlannu hadau.

Gall teuluoedd alw heibio i ddylunio a chreu catapwlt neu ffan gonsertina allan o hen ffyn – Creu 3 Peth Cŵl gyda Ffon Hufen Iâ, o ddydd Llun 25 i Sul 31 Mai (12.30-3.30pm).

Ar ddydd Sadwrn 30 Mai (1pm a 3pm), byddwn yn barod am sioe wyddoniaeth gyffrous a syfrdanol gyda’r cymeriad unigryw o CBBC, The Blowfish, sy’n cyfuno bioleg forol a cherddoriaeth roc trwm.

Bydd The Blowfish yn tywys y gynulleidfa i waelod y môr at rai o greaduriaid mwyaf anhygoel y dyfnderoedd, ac yn egluro nad y bwystfilod mawr yw’r rhai mwyaf dychrynllyd bob amser. Bydd hefyd yn dangos sut mae ffiseg a chemeg yn cyfuno gyda bywydeg i greu rhai o’r creaduriaid mwyaf od a diddorol ar y ddaear.

Gyda chymorth rhai o drigolion go iawn gwaelod y môr, a digonedd o sŵn, bydd eich parch at yr anifeiliaid hynod hyn yn siŵr o dyfu.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd The Blowfish: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lleoliad perffaith ar gyfer anrhefn metal morol! Mae gan dde Cymru arfordir cystal ag unrhyw le yn y byd a chreaduriaid anhygoel yn y môr, ac rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno rhai ohonynt i’r gynulleidfa.”

Mae The Blowfish yn hen ffefryn ar raglenni CBBC megis Blue Peter, How to be Epic @ Everything ac Absolute Genius with Dick & Dom. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar This Morning (ITV1) ac yn arbenigwr bywyd gwyllt ar Sunday Brunch (Channel 4).

Daw’r wythnos i ben gyda pherfformiad byw arbennig gan Bronwen Lewis fel rhan o Ddyddiau Gwerin Calan Mai. Mae Bronwen yn un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru; bu’n gystadleuydd ar raglen y BBC The Voice yn ogystal ag ymddangos yn y ffilm lwyddiannus Pride. Bydd yn perfformio’n fyw am 2pm ar ddydd Sul 30 Mai.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r amrywiaeth o ddigwyddiadau dros wythnos hanner tymor,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Bydd cyfle i ymwelwyr chwilota a ffeirio llyfrau, bod yn greadigol gyda ffyn hufen iâ neu gael eu rhyfeddu gan anrhefn metal morol. Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni!”

Am fwy o fanylion ynghylch unrhyw un o’r digwyddiadau, ewch i http://www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe/digwyddiadau/ neu ffoniwch (029) 2057 3600.

DIWEDD