Datganiadau i'r Wasg

Cofnod Dyddiadur: Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Yng Ngwesty y Seiont Manor, Llanrug ger Caernarfon

10.45am-1pm, Dydd Iau 18 Mehefin 2015

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa yng Ngwesty’r Seiont Manor yn Llanrug ger Caernarfon 10.45am-1pm ar ddydd Iau 18 Mehefin 2015.  Yn dilyn y cyfarfod bydd cyfle y gwrdd ac aelodau y Bwrdd a’r Pwyllgor Gweithredol. Bydd cinio am 1pm-2pm.

Mae’r cyfarfod yn rhan o ymweliad fydd yn archwilio’r ffyrdd y gall Amgueddfa Cymru sicrhau mwy o bartneriaid strategol a datblygiadau dysgu ar draws Cymru ac yn benodol yn yr Ardaloedd Arloesi.

Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.

I fynychu’r cyfarfod, fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cysylltwch â Elaine Cabuts ar ffon: 02920 573204 neu e-bostiwch: rsvp@amgueddfacymru.ac.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

- Diwedd -

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu e-bostiwch lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk