Datganiadau i'r Wasg

Canfod deinosor Cymreig newydd ger Caerdydd

Arddangos y deinosor Jwrasig cigysol cyntaf i’w ganfod yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae sgerbwd ffosil deinosor theropod wedi cael ei ddarganfod ar draeth ger Penarth ym Mro Morgannwg ac am gael cartref newydd yn Amgueddfa Cymru. Roedd y deinosor newydd hwn yn gefnder Cymreig pell i Tyrannosaurus rex ac yn byw ym mlynyddoedd cynharaf y Cyfnod Jwrasig, 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dyma o bosib y deinosor Jwrasig hynaf yn y byd. Bydd y ffosil i’w weld ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 9 Mehefin a 6 Medi 2015.

Dyma ‘ddarganfyddiad oes’ dau frawd o Lanilltud Fawr, Nick a Rob Hanigan, wrth hela ffosilau ar draeth Larnog wedi i stormydd gwanwyn 2014 daro arfordir Bro Morgannwg. Wrth archwilio cwymp creigiau ar y traeth, dyma weld nifer o flociau rhydd ag ynddynt ddarnau o sgerbwd deinosor bach. Dyma gasglu’r sbesimen oedd yn cynnwys dannedd miniog a chrafangau.

Cafodd yr esgyrn ffosiledig eu canfod wedi’i gwasgaru dros bum darn o graig, ac er bod rhai wedi’u cadw yn eu safle cywir, roedd eraill wedi’u gwahanu a’u gwasgaru gan bysgod a draenogod môr sydd hefyd wedi’u ffosileiddio gyda’r esgyrn.

Bu Nick a Rob wrthi’n ofalus yn paratoi’r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru. Llwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr deinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i ddadansoddi’r dannedd a’r esgyrn. Llwyddodd y tîm i gadarnhau fod y deinosor hwn yn gigysydd o’r grŵp theropodau. Mae’n debyg hefyd mai deinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o’r esgyrn heb eu ffurfio’n llawn eto. Parhau mae’r gwaith ymchwil, a phapur gwyddonol ar y gweill fydd yn datgelu enw’r rhywogaeth newydd.

Roedd y deinosor Cymreig yn fach, yn denau ac yn chwim. Mae’n debyg nad oedd yn llawer talach na 50cm, a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd. Pan oedd yn crwydro’r Ddaear roedd de Cymru yn ardal arfordirol gyda hinsawdd gynnes. Roedd gan y deinosor lawer o ddannedd bychan a miniog fel cyllyll, sy’n awgrymu ei fod yn bwyta pryfed, mamaliaid bychan ac ymlusgiaid.

Mae’n debyg fod mân-blu yn gorchuddio’i gorff, fel nifer o ddeinosoriaid therapod eraill, ar gyfer inswleiddio ac efallai ar gyfer arddangosiad. Mae’n bosibl hefyd bod cwils ar ei gefn ar mwyn amddiffyn ei hun,

Mae’r creigiau sy’n cynnwys y ffosilau yn dod o ddechrau’r cyfnod Jwrasig, rhyw 201.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, roedd y deinosoriaid yn dechrau amrywio mwy. Mae’r sbesimen hwn yn un o’r unigolion Jwrasig cynharaf yn y DU. Mae’n perthyn i’r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn hyn yn dde-orllewin Unol Daleithiau America.

Er bod dannedd ac esgyrn deinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Pen-y-Bont, y Barri a’r Bont-faen, y deinosor newydd hwn yw’r sgerbwd therapod cyntaf i gael ei ddarganfod.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae hwn yn ddarganfyddiad arbennig iawn, ac mae Nick a Rob Hanigan wedi bod yn hynod o hael wrth roi’r sbesimen rhyfeddol hwn i Amgueddfa Cymru, i’w gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym wrth ein bodd fod y sbesimen hon yn cael ei arddangos, gan roi golwg unigryw i ymwelwyr o sgerbwd ffosiledig y deinosor cigysol cyntaf yng Nghymru, ac un o’r deinosoriaid Jwrasig cyntaf yn y byd.”

Dywedodd Nick Hanigan:

“Dyma ddarganfyddiad mwyaf ein bywydau – roedd paratoi’r penglog a gweld dannedd therapod am y tro cyntaf mewn 200 miliwn o flynyddoedd yn brofiad anhygoel – allwch chi ddim curo’r math yna o beth!”

Dywedodd Rob Hanigan:

“Roedd rhoi’r deinosor i’r Amgueddfa er mwyn i’r cyhoedd a gwyddonwyr ei weld ac ymchwilio iddo yn fwriad o’r cychwyn.”

Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru:

“Dyma newyddion cyffrous i Amgueddfa Cymru. Mae’r gwaith a wnaed gan y tîm ymchwil i adnabod y deinosor hwn yn brawf o’u sgiliau a’u gwybodaeth ac mae’n wych eu gweld yn cael eu gwobrwyo gyda’r rhodd hon i’r Amgueddfa.

 

“Mae deinosoriaid yn dal i ddal ein dychymyg. Bydd yr arddangosfa gyffrous yn caniatáu i ymwelwyr o Gymru a thu hwnt gael blas o’r darganfyddiad pwysig hwn – a hynny am ddim!”

Mae rhaglen weithgareddau ac arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn derbyn cefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

– Diwedd –

 

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.