Datganiadau i'r Wasg

Dan Gyfaredd Gwlân

Mae Amgueddfa Wlân Cymru, yng nghalon dyffryn Teifi, yn falch o groesawu arddangosfa newydd sbon – Dan Gyfaredd Gwlân – fydd i’w gweld tan 30 Mehefin.

Bydd yr artist talentog o Hwlffordd, Sophie Wellan, yn syfrdanu ymwelwyr gyda’i gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan chwedlau, diwylliant a thirwedd Cymru, yn ogystal â hen feddyginiaeth.

Mae Dan Gyfaredd Gwlân yn dathlu’r deunydd naturiol gwych hwn, ynghyd â metelau elfennol a phlanhigion gwyllt. Mae’n daith greadigol sy’n arddangos y cysylltiad rhwng byd natur a’r byd materol. 

Mae gwlân yn ddeunydd newydd i Sophie ac yn gweddu’n berffaith â gweddill y deunyddiau y bu hi’n eu defnyddio dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

Wrth sôn am yr arddangosfa, dywedodd Sophie: “Rwyf wrth fy modd o gael arddangosfa yn Amgueddfa Wlân Cymru.

“Mae’r project yn deillio o fy niddordeb mewn gwlân fel deunydd crai. Roedd ymweld â’r Amgueddfa yn rhan fawr o fy mhroses ymchwilio – roedd awyrgylch ddiwydiannol y felin yn wefreiddiol a’r casgliadau yn hynod drawiadol. Mae’n bleser cael ymwneud â’r lle.”

Dywedodd Mark Lucas, Curadur yn Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym yn falch iawn o groesawu Dan Gyfaredd Gwlân i’r Amgueddfa. Mae’n arddangosfa gyffrous fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld celf tecstil cyfoes ochr yn ochr â’n casgliadau hanesyddol.”

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa ewch i: www.thewisdomofwool.co.uk

Bydd arddangosfa Dan Gyfaredd Gwlân i’w gweld tan 30 Mehefin.