Datganiadau i'r Wasg

Canfod trysor ger Bronington, Wrecsam

Datgan celc o aur ac arian o ddiwedd yr oesoedd canol yn drysor

Mae celc canoloesol o dri darn aur a 25 darn arian o Loegr wedi ei ddarganfod ger Bronington, Wrecsam. Daw’r ceiniogau o gyfnodau Edward III, Richard II a Harri VI, gyda thair ceiniog o gyfnodau amhenodol. Cafodd y ceiniogau eu darganfod ar sawl gwahanol achlysur yn 2013 gan Mr Cliff Massey wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel, a chafodd modrwy hefyd ei darganfod gan Mr Massey a Mr Peter Walpole ar 16 Mawrth 2014.

Mae’r ceiniogau cynharaf, o gyfnodau Edward I neu II (bathwyd rhwng 1280 a 1327) ac Edward III (1327-77) wedi gwisgo’n sylweddol, tra bod ceiniogau Harri VI (1422-61) mewn cyflwr da ar y cyfan. Mae’n ymddangos bod y 28 ceiniog yn rhan o un celc. Mae’r ffaith bod ceiniog o’r 1450au wedi’i chynnwys, ac ysgafnder sawl grôt o’r grŵp newydd, yn awgrymu bod y celc wedi’i golli neu ei guddio wedi 1465.

Gwnaed darganfyddiad arall sydd yn gysylltiedig â’r celc hwn, sef modrwy aur addurnol gyda saffir glas cabochon arni. Mae pedwar bachyn yn dal y garreg yn ei lle, ac o amgylch tu allan y fodrwy mae patrwm cerfwedd aur ar ffurf coes planhigyn a dail.

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Mae’r cysylltiad rhwng y fodrwy hon a cheiniogau y gellir eu dyddio yn arwyddocaol i astudiaethau gemwaith, gan ei fod yn caniatáu i ni adeiladu cyd-destun mwy penodol ar gyfer addurno personol yng Nghymru ar ddiwedd yr oesoedd canol. Mae’r fodrwy yn un hynod o gywrain, ac o edrych ar ei ffurf a’i harddull, yn dod o’r bymthegfed ganrif – mae’r patrwm dail a’r saffir ar y fodrwy yn debyg iawn i fodrwy arall y cyfeirir ati yn ewyllys John Claymond, llywydd cyntaf Coleg Corpus Christi, Rhydychen (1468-1537). Mae hyn yn golygu bod modrwy Bronington yn dod o’r un cyfnod â’r ceiniogau, gafodd eu cuddio wedi 1465 yn ôl y toriadau ar rai o’r ceiniogau.

Mae Amgueddfa Wrecsam wedi datgan diddordeb mewn caffael y ceiniogau a’r fodrwy aur, gan ddefnyddio arian sydd ar gael i Gymru drwy fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r Amgueddfa yn barod wedi caffael 14 ceiniog arian o gyfnod Edward III–Harri VI, gafodd eu darganfod ar yr un safle a’u datgan yn drysor yn 2013.”

Dywedodd Steve Grenter,Rheolwr Gwasanaethau Treftadaeth yn Amgueddfa Wrecsam:

“Rydym yn awyddus iawn i gaffael y celc hwn, gan mai ychydig o ddeunydd o gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau sydd gennym. Byddai’r celc hwn yn ychwanegiad sylweddol i’n casgliadau archaeolegol. Gobeithiwn y bydd modd i ni gaffael y darganfyddiad pwysig hwn drwy broject Saving Treasures; Telling Stories Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru. Bydd yr amgueddfa hefyd yn chwilio am ffyrdd o gydweithio â grwpiau cymunedol lleol wrth i ni fynd ati i arddangos a dehongli’r trysor.”

Diwedd