Datganiadau i'r Wasg
Allech CHI helpu i ofalu am ddeinosoriaid, campweithiau artistiaid mwya’r byd a phwll glo?
Dyddiad:
2015-06-25Deinosor cigysol 200 miliwn oed o Gymru; gwerth 500 mlynedd o baentiadau o safon rhyngwladol; crwban môr cefn lledr mwya’r byd; y casgliad mwyaf o emwaith a ganfuwyd unrhyw le yn Ewrop Rufeinig; craig a gasglwyd o’r lleuad gan griw Apollo 12, a phwll glo sy’n dal i weithio.
Mae Amgueddfa Cymru’n gofalu am drysorau o bob math ac mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am bobl newydd, frwdfrydig i sicrhau bod amrywiaeth eang o bobl yn gallu gwerthfawrogi a mwynhau’r creiriau hyn.
Mae pum swydd wag i ymddiriedolwyr ac Is-lywydd ar y Bwrdd fydd yn pennu strategaeth newydd ac yn edrych ar ffyrdd o gryfhau a datblygu saith amgueddfa genedlaethol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i benodi aelodau a fydd yn gallu dod â brwdfrydedd newydd a chynnig eu cefnogaeth wrth i Amgueddfa Werin Sain Ffagan, sydd mor agos at galon y genedl, gael ei thrawsnewid gyda buddsoddiad o £25.5m. Yn ogystal, bydd gofyn i’r Bwrdd helpu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn ennyn diddordeb pobl newydd a denu ymwelwyr newydd i weld rhyfeddodau ein hamgueddfeydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
“Mae arnom angen pobl ffres, amrywiol a deinamig i ymuno â’r Bwrdd ac arwain Amgueddfa Cymru drwy gyfnod cyffrous. Mae gan yr Amgueddfa gymaint o atyniadau anhygoel ac rwyf am i fwy o ymwelwyr nag erioed gael cyfle i’w mwynhau – yn enwedig pobl sydd erioed wedi bod mewn amgueddfa o’r blaen.
“Rydw i hefyd yn awyddus i weld Amgueddfa Cymru’n cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i drechu tlodi drwy greu cysylltiadau agos â chymunedau ledled y wlad.
“Mae hwn yn gyfle ffantastig i bobl sydd erioed wedi bod yn ymddiriedolwyr o’r blaen; byddan nhw’n cael cyfle i wneud cyfraniad da a magu profiad gwerthfawr.
“Mae angen Bwrdd amrywiol ac uchelgeisiol sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern. Dyma gyfle gwych i bobl sydd ag arddeliad a gweledigaeth, i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n gwasanaethu pawb, gan estyn croeso cynnes i ymwelwyr o’r tu allan i Gymru a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd a gynigir gan y dechnoleg ddigidol newydd.”
Swyddi gwirfoddol yw’r rhain a bydd angen bod ar gael am o leiaf 12 niwrnod y flwyddyn. Bydd rhaid i’r Is-lywydd neilltuo hyd at un diwrnod yr wythnos i’r swydd.
Ychwanegodd Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru:
“Mae gan Amgueddfa Cymru dîm cryf o ymddiriedolwyr sy’n sicrhau bod y sefydliad yn cynnal ei enw da rhyngwladol. Rydym ni, fel corff llywodraethu, yn gweithio gyda gweithrediaeth yr Amgueddfa, ei staff a’n partneriaid ni i lywio dyfodol yr Amgueddfa a’i diogelu ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
“Ein nod yw cael pobl newydd ar y Bwrdd fydd â diddordeb yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru ac a fydd yn gallu cyfrannu at y gwaith o gryfhau a datblygu Amgueddfa Cymru.
Mae pobl o bedwar ban byd yn dod i ymweld â’n hamgueddfeydd. Maen nhw hefyd yn adnodd gwerthfawr i’r bobl leol. Mewn gair, rhywbeth i bawb yw Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.”
Bydd cyfle i ddysgu mwy am Amgueddfa Cymru ac am y swyddi hyn mewn diwrnodau agored yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar 1 Gorffennaf ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 3 Gorffennaf rhwng 2-6pm. Fydd dim angen archebu lle, dim ond galw draw!
Cewch ragor o wybodaeth a ffurflenni cais drwy glicio ar y dolenni isod. Y dyddiad cau yw 16 Gorffennaf.
Is-lywydd
Ymddiriedolwyr
Bydd swyddi’r ymddiriedolwyr yn dechrau ar 1 Tachwedd 2015 a’r Is-lywydd yn dechrau ar 1 Hydref 2016.