Datganiadau i'r Wasg

Ragnar Kjartansson gydag Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi ar restr fer am wobr

Mae’r pedair amgueddfa a’r artistiaid o’u dewis sydd ar restr fer Gwobr Flynyddol Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes 2015 wedi eu cyhoeddi. Caiff y wobr ei chefnogi’n hael gan Sefydliad Sfumato. Ar y rhestr fer mae:

  • Pablo Helguera gyda’r Middlesbrough Institute of Modern Art

  • Ragnar Kjartansson gydag Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi

  • Stephen Sutcliffe a Graham Eatough gyda The Whitworth, rhan o Brifysgol Manceinion, mewn partneriaeth â LUX

  • Katrina Palmer gydag Oriel Stanley & Audrey Burton, mewn cydweithrediad â Sefydliad Henry Moore

Hon yw seithfed flwyddyn y wobr o £40,000, sy’n un o brif wobrau celf gyfoes y wlad o ran gwerth ariannol. Caiff y wobr gomisiynu unigryw ei chyflwyno gan y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes i amgueddfa neu oriel gyhoeddus yn y DU ynghyd ag artist o’u dewis. Mae’r wobr yn rhoi cyfle i’r amgueddfa fuddugol gomisiynu gwaith celf newydd ar gyfer eu casgliad parhaol gan artist sydd heb ddangos llawer o’i waith mewn amgueddfeydd yn y wlad hon.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan y Barbican, Llundain ar 23 Tachwedd 2015. Bydd enw’r sawl fydd yn cyflwyno’r wobr yn cael ei gyhoeddi’n hwyrach eleni. Mae nifer o artistiaid blaenllaw wedi cyflwyno’r wobr yn y gorffennol, gan gynnwys Grayson Perry, Cornelia Parker, Jeremy Deller, Mark Wallinger a Martin Creed.

Y beirniaid ar gyfer Gwobr Flynyddol annibynnol 2015 yw: Annie Fletcher (Prif Guradur, Van Abbemuseum, Eindhoven), Polly Staple (Cyfarwyddwr, Oriel Chisenhale), Michael Archer (Beirniad ac Athro Celf, Coleg Goldsmiths) a Haroon Mirza (Artist).

Dywedodd Christine Takengny, Curadur, Caffaeliadau Amgueddfeydd i’r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes:

Mae’r Wobr hon yn rhoi cyfle prin i’n hamgueddfeydd gomisiynu gwaith celf cwbl newydd ar gyfer eu casgliad, ac mae pob amgueddfa ar y rhestr fer eleni yn cynnig perthynas waith newydd a chynhyrchiol gyda’r artist o’u dewis. Roedd y panel dewis wedi’u cyffroi o weld natur ryngddisgyblaethol llawer o’r gwaith arfaethedig, yn ogystal ag awydd yr artistiaid a’r amgueddfeydd i wthio’u gwaith i gyfeiriad newydd er mwyn creu darnau o arwyddocâd cenedlaethol.

Ar gyfer holl ymholiadau’r wasg, gan gynnwys tocynnau i’r noson wobrwyo ar 23 Tachwedd, cysylltwch â:

Marcus Crofton, Rheolwr Cyfathrebu, Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes marcus@contemporaryartsociety.org  +44 (0)20 7017 8412