Datganiadau i'r Wasg

Darganfod Cymru gyda Phasbort Newydd i Blant

Cyrff treftadaeth Cymru yn cydweithio ar ymgyrch haf

Beth am fynd allan i grwydro dros yr haf? Diffoddwch y teledu a’r cyfrifiadur, a dewch i ddarganfod trysorau gwych Cymru. Mae Amgueddfa Cymru, Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru), Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydweithio i greu pasbort cyffrous i blant er mwyn eu galluogi i ddarganfod amgueddfeydd, cestyll, tai a gerddi hanesyddol yr haf hwn.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei chefnogi gan Croeso Cymru, yn dechrau’r wythnos hon (15 Gorffennaf 2015), a’r bwriad yw annog teuluoedd Cymru i ymweld â chymaint ag y gallant o atyniadau treftadaeth y wlad dros yr haf. Mae chwe gwahanol antur yn y pasbort arbennig, sydd wedi’i anelu at blant 6-11 oed. Mae pob antur mewn ardal wahanol o Gymru ac yn llawn llefydd cyffrous i ymweld â nhw - yn amgueddfeydd, cestyll, tai hynafol a mwy.

Ewch i goncro castell neu ddod ar draws abaty cudd yn y gogledd ddwyrain. Profwch fywyd y pwll glo yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a darganfod sut y byddai’r Rhufeiniaid yn ymlacio yng Nghaerllion. Yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, cewch ddod wyneb yn wyneb â deinosor neu fod yn archwiliwr natur yn Nhŷ Tredegar a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae digon i’w wneud yn y canolbarth a’r gorllewin hefyd - o ymweld â fferm Llanerchaeron neu arddangosfeydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i chwarae cuddio ym mharc enfawr Dinefwr neu ymladd fel y dywysoges Gwenllïan yng Nghastell Cydweli!

Mae’r llyfryn 36 tudalen, maint A6, ar gael i deuluoedd ym mhob un o'r 24 atyniad dan sylw. Bydd angen i deuluoedd ymweld ag un ohonynt i gasglu pasbort. O ymweld ag o leiaf pedwar safle, bydd cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth drwy gasglu sticeri a gyrru ffurflen gais er mwyn ceisio ennill 1 o 20 Pecyn Gweithgareddau Anturiwr.

Mae Heart FM yn ne Cymru wedi ymuno â’r ymgyrch ac yn cynnig gwobrau cyffrous gan gynnwys cyfle i ennill camera GoPro a noson yn un o westai moethus Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae gan Gymru gyfoeth o drysorau. Rydym eisiau i deuluoedd ddarganfod a mwynhau’r llu o atyniadau treftadaeth sydd gennym. Felly ewch amdani – casglwch eich pasbort a mynd ati i ddarganfod trysorau Cymru dros yr haf.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd.