Datganiadau i'r Wasg

Pwy fydd fuddugol? Y Celtiaid neu’r Rhufeiniaid?

Chi fydd yn dewis yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Brwydr rhwng y Celtiaid a’r Rhufeiniaid fydd uchafbwynt rhaglen ddigwyddiadau’r haf yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Ar 22 a 23 Awst 2015, bydd yr ardd Rufeinig yn cael ei gweddnewid yn faes y gad a dau wersyll yn cael eu codi. Bydd y ddwy ochr yn ceisio eich perswadio, ond pwy fydd yn cael eich pleidlais?

Bydd y gwersylloedd ar agor rhwng 10am a 5pm gyda’r cyhoedd yn dewis yr enillwyr ar ôl clywed dwy ochr y stori. (Pris yn £3 y pen ac am ddim i blant dan 3 oed).

Bydd y Celtiaid yn taeru taw nhw yw’r ymladdwyr mwyaf dychrynllyd, bod eu dewrder yn ddiwaelod a’u menywod yn ymladd cystal â’r dynion. Ar y llaw arall, bydd y Rhufeiniaid yn esbonio sut y byddan nhw’n defnyddio disgyblaeth a strwythur i ennill brwydr.

Gwrandewch ar y dadlau yng ngardd yr Amgueddfa, crwydro’r ddau wersyll a rhoi tro ar rai o’r crefftau fydd i’w gweld. Ac wedi bwrw’ch pleidlais fe gewch chi fwynhau brwydr yn fyw o flaen eich llygaid!

Yn y Gwersyll Rhufeinig gallwch chi ofyn i ddoctor drin eich craith ffug, martsio fel milwr a chreu tarian wych. Neu beth am beintio’ch hun yn las, creu basgedi ac addurno metel yn y gwersyll Celtaidd?

Bydd digon i ddiddanu pawb pa bynnag ochr fyddwch chi’n ei chefnogi!

Gwersyll ar agor rhwng 10am a 5pm. Arddangosiadau Celtaidd am 11.30am a 1pm ac arddangosiadau Rhufeinig am 12pm a 1.30pm. Brwydr olaf am 3pm gyda’r blychau pleidleisio ar agor rhwng 12.30pm a 2.30pm.

Bydd cyfle hefyd, drwy gydol Awst, i ymwelwyr ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru fyw bywyd fel Rhufeiniaid o Ddydd i Ddydd gan gyfarfod cogydd, doctor a milwr Rhufeinig i ddysgu mwy am fywyd yn oes y Rhufeiniaid. 1–20 Awst 2015, Llun – Sadwrn 12pm – 4pm, Sul 2pm-4pm.  

Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru: “Bydd gwledd i ymwelwyr yma yr haf hwn gyda Celtiaid v Rhufeiniaid yn ddiwrnod llawn cyffro. Mae’r Rhufeiniaid yn uned gref, ond gyda dewrder y Celtiaid gall unrhywbeth ddigwydd! Cofiwch hefyd y gallwch chi brofi bywyd bob dydd y Rhufeiniaid drwy gydol Awst wrth ymuno â’r cogydd, y doctor a’r milwyr dros yr haf.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.