Datganiadau i'r Wasg
Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn cydweithio
Dyddiad:
2015-07-21Mae dau o brif sefydliadau Cymru wedi dod at ei gilydd i helpu i gynyddu effaith eu gwaith.
Bydd Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru yn cydweithio mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyffredin.
Gallai hyn gynnwys prosiectau ymchwil ar y cyd, hyfforddiant staff, cynlluniau cyfnewid, rhaglenni cydweithredol o astudiaeth ôl-raddedig a goruchwyliaeth PhD.
Mae'r ddau sefydliad yn credu y bydd cydweithio'n agosach mewn meysydd o arbenigedd cyffredin yn cynyddu effaith eu gwaith ymchwil ac yn arwain at fwy o waith ymchwil.
Bydd cydweithio hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau a darparu adnoddau.
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan, a Chyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Mae'r memorandwm yn ymrwymo at bartneriaeth hirdymor "sydd wedi'i chynllunio'n bennaf i hyrwyddo ymchwil a chyflawni effaith gyhoeddus mewn meysydd o gryfder a diddordeb strategol cyffredin, gan wneud gwahaniaeth i Gymru a thu hwnt".
Dywedodd yr Athro Riordan: "Rwy'n credu y bydd sefydlu prosiectau cydweithio a phartneriaethau fel hyn yn ein helpu i gyflawni ein nod o fod yn un o 100 prifysgol orau'r byd, yn ogystal â dod â manteision ehangach i Gymru.
"Mae cyfuno pŵer y Brifysgol â phŵer un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y wlad yn rhan bwysig iawn o'n dull strategol a'n hagenda arloesedd.
"Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth llafur y bartneriaeth hon, boed drwy brosiectau ymchwil pwysig, cyfleoedd datblygu staff neu rannu cyfleusterau.
Dywedodd Mr Anderson: "Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo at ddatblygu ein rhaglenni ymchwil yn y celfyddydau, y gwyddorau a'r dyniaethau, sydd eisoes yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Drwy ymuno â'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn gyda Phrifysgol Caerdydd, gallwn fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd a gweld ffyrdd gwahanol o weithio fel cyfleoedd.
"Mae Amgueddfa Cymru bellach yn cael ei chydnabod fel un o amgueddfeydd mwyaf blaenllaw'r byd ym maes ymchwil ac ymarfer, o ran cyfranogiad ymwelwyr a gweithio gyda chymunedau. Yn aml, mae'r gwaith arloesol hwn yn ysgogi ymchwil newydd, sy'n ehangu ein gwybodaeth am y casgliadau cenedlaethol a hanes a diwylliant ein cenedl.
"Rydym yn dod â gwybodaeth a phrofiad i'r bartneriaeth hon o ran y ffordd orau o gyfleu effaith y gwaith ymchwil hwn i gynifer o bobl â phosibl."
Mae'r Brifysgol a'r Amgueddfa eisoes yn gweithio gyda'i gilydd, ac maent wedi cael rhywfaint o lwyddiant nodedig gyda gwaith ymchwil ar y cyd.
Bu'r ddau sefydliad yn gweithio ar gloddio crannog (ynys artiffisial) canoloesol cynnar yn Llyn Llan-gors ger Aberhonddu.
Dyma oedd yr unig safle o'i fath yng Nghymru, a datgelodd gwaith yr Amgueddfa a'r Brifysgol mai safle brenhinol canoloesol cynnar ydoedd, yn perthyn i Bennaeth teyrnas fewndirol Brycheiniog.
Roedd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Cymru hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Ysbrydwlithen Caerdydd – rhywogaeth newydd i'r DU a newydd i wyddoniaeth.
Mae'r meysydd lle gallai'r Brifysgol a'r Amgueddfa weithio gyda'i gilydd yn cynnwys:
-
Datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd a cheisiadau am gyllid
-
Gwaith sy'n ymwneud â manteision ymgysylltu â threftadaeth a diwylliant, gyda phwyslais penodol ar gynhwysiant cymdeithasol, cyd-gynhyrchu a dysgu yn y gymuned
-
Trosi ymchwil yn effaith
-
Mentrau addysgu ôl-raddedig ar y cyd a gwaith ymchwil cysylltiedig
-
Hyfforddi a chefnogi staff y ddau sefydliad o ran ymchwil, ymgysylltu ac effaith gyhoeddus
-
Cyfnewid staff a hyrwyddo gweithgareddau datblygu
-
Cyfnewid deunyddiau a chyhoeddiadau academaidd a chyhoeddus mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin
-
Rhannu a chyfnewid offer a chyfleusterau