Datganiadau i'r Wasg

Hwyl i'r teulu yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol

Bydd yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre'n dathlu Wythnos Dysgu fel Teulu trwy lansio dau weithgaredd newydd ar gyfer plant a theuluoedd, ddydd Sadwrn 16 Hydref.

Mae Stori Wlanog yn daith ryngweithiol a hwyliog i deuluoedd ei dilyn o amgylch yr amgueddfa. Bydd pob teulu'n casglu carden ac yn mynd ati i greu eu cyfarwyddiadau eu hunain i wneud brethyn. Ar hyd y ffordd bydd cyfleoedd i roi cynnig ar gribo, nyddu, gweu a gwnïo cyn casglu darn o frethyn i'w gadw ar y diwedd.

Bydd Cert Celf yr amgueddfa'n crwydro'r amgueddfa hefyd gan roi cyfle i bawb gael eu hysbrydoli gan yr amgueddfa i droi eu llaw at bob math o grefftau gan gynnwys gweu papur ac edau, a gludwaith.

Mae'r gweithgareddau a mynediad i'r amgueddfa am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r Amgueddfa Wlân Genedlaethol ar agor drwy'r gaeaf 10 am -5 pm, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Am ragor o wybodaeth ffoniwch yr amgueddfa ar 01559 370929.