Datganiadau i'r Wasg

Gweithredu diwydiannol yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

“Yn anffodus bydd rhai o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru yn cael eu heffeithio gan gyfres o streiciau gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) y penwythnos hwn. Maent yn streicio ynghylch dyfodol Taliadau Premiwm – taliadau ychwanegol i staff sy’n gweithio ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

“Bydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar ddydd Sadwrn, 1 Awst 2015 ond ni fydd rhai gwasanaethau ar gael. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon i gyd ar gau ddydd Sadwrn. Bydd Big Pit hefyd ar gau ddydd Sul, 2 Awst. Ni fydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn. Byddwn yn sicrhau bod ymwelwyr a gwasanaethau yn cael eu heffeithio cyn lleied â phosibl, ac rydym yn cynghori unrhyw un sy’n teithio i’n hamgueddfeydd i fynd ar ein gwefan am fwy o fanylion cyn cychwyn.

“Rydym yn siomedig iawn bod Undeb PCS wedi penderfynu parhau â’r gweithredu diwydiannol er gwaethaf y ffaith ein bod wedi dechrau ar broses gymodi â nhw drwy ACAS – proses sy’n parhau. Byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod i gytundeb gyda PCS, fel yr ydym wedi llwyddo gwneud gydag Undeb Prospect.

“Mae ein cynnig, sydd yn cymryd i ystyriaeth staff ar bob lefel, yn cynnwys cynyddu tâl sylfaenol y staff sydd ar y cyflogau isaf o 4% yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn ychwanegol i’r 4% o gynnydd y mae’r staff hynny wedi’i dderbyn ers 2011.

“Er mwyn ceisio amddiffyn ein staff gymaint â phosibl, rydym hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno Cyflog Byw o £7.85 yr awr, cynnig iawndal gwerth dwy flynedd o daliadau premiwm sydd ar gyfartaledd yn £3,600 y person, a gwarchod pensiynau’r staff a effeithir gan y newidiadau am y bum mlynedd nesaf.

“Bydd hyn yn lleihau rhywfaint ar effaith colli’r Taliadau Premiwm, sydd ddim yn cael eu talu gan y mwyafrif o’r amgueddfeydd cenedlaethol eraill.

“Rydym wedi dioddef lleihad o dros 20% yn ein cyllideb refeniw dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth San Steffan, mae’n annhebygol y bydd y sefyllfa’n gwella yn y dyfodol agos.”