Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cydweithio a Achub y Plant Cymru

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cydweithio ag Achub y Plant dros yr haf er mwyn trefnu diwrnod o hwyl i’r teulu cyfan ar ddydd Iau 13 Awst. Rhwng 10am a 4pm bydd yr Amgueddfa’n llawn gweithgareddau di-ri i deuluoedd fydd yn cefnogi ac yn datblygu addysg yn y cartref a’r gymuned.

Gadewch i orielau celf yr Amgueddfa eich ysbrydoli i greu rhywbeth gwych gyda’r cert celf poblogaidd, neu beth am fwynhau arddangosfa gerameg gyfoes Bregus? cyn creu eich potyn eich hun? Dewch i weld arddangosiad y deinosor Cymreig newydd a chreu eich ffosil eich hun, neu wisgo fel seren bop a chael tynnu llun fel yr enwogion yn arddangosfa ffotograffiaeth Chalkie Davies? Gallwch chi fynd i hela pryfed yn y ddôl drefol y tu allan, gwrando ar stori neu ddatrys cliwiau wrth ddilyn llwybr drwy’r Amgueddfa! Gweithgareddau galw draw yw’r rhan fwyaf, ond dylai ymwelwyr gadw lle yn y gweithdy creu ffosil wrth gyrraedd.

 

Achub y Plant sy’n rhedeg Families and Schools Together (FAST), rhaglen ymyrraeth gynnar wobrwyog sy’n dod â rhieni, plant, athrawon a’r gymuned ehangach ynghyd i wneud yn siŵr bod plant yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gyrraedd eu llawn botensial, yn y dosbarth ac yn eu bywyd.

 

Dywedodd Eleri Evans, Rheolwr Addysg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd:

 

“Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gweithgareddau diwylliannol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.”

 

“Mae’n hanfodol bod teuluoedd yn derbyn cefnogaeth, felly yn ogystal â bod yn ddiwrnod arbennig o weithgareddau, mae hwn yn gyfle hefyd i gyflwyno’r Amgueddfa a’i chasgliadau i deuluoedd newydd sydd efallai yn ymweld am y tro cyntaf.”

 

“O gelf i hanes natur, mae digonedd o weithgareddau a gweithdai am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd drwy gydol y flwyddyn i ddiddanu teuluoedd a phlant.”

Dywedodd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: “Mae FAST yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r teuluoedd sy’n cymryd rhan. Drwy gasglu ynghyd yr elfennau sy’n hanfodol i lwyddiant y plentyn – ysgol, teulu a’r gymuned – mae FAST yn sicrhau bod plant yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i ffynnu. Mae wedi bod yn wych cael cydweithio â’r Amgueddfa ac rydym yn gobeithio y bydd teuluoedd yn cael eu hysgogi gan arlwy yr Amgueddfa ac Achub y Plant.”

Bydd Achub y Plant hefyd yn hyrwyddo pecyn sbardun stori y gall teuluoedd ei lawrlwytho am ddim a’i ddefnyddio i ddechrau sgyrsiau gyda phlant cyn oed ysgol.

Partneriaeth rhwng casgliad o sefydliadau a Ladybird yw Read On. Get On. yn creu gweithgareddau wedi’u hanelu at helpu teuluoedd i siarad â’u plant a datblygu sgiliau iaith. Mae straeon sbardun Ladybird yn cynnwys nifer o gymeriadau poblogaidd fel Peppa Pig, Ben & Holly a Topsy & Tim mewn sefyllfaoedd bob dydd, a gellir eu lawrlwytho am ddim o wefan Read On. Get On. yr wythnos hon.

Am ragor o wybodaeth am Read On. Get On. ac i lawrlwytho pecyn straeon sbardun  Ladybird ewch i www.readongeton.co.uk.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke yn amgueddfa Genedlaethol Caerdydd drwy ffonio (029) 2057 3175 neu e-bostio lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

 

 

Read On. Get On:

Mae darllen yn allweddol i blant gyrraedd eu llawn botensial ac yn un o’r dulliau gorau i’r plant tlotaf adael tlodi. Ond mae gormod o blant y DU heddiw yn gadael yr ysgol gynradd heb sgiliau darllen da, gan gynnwys 40% o’n plant tlotaf. Ein nod yw sicrhau y bydd pob plentyn 11 oed yn hyderus yn darllen erbyn 2025. Bydd Read on. Get on. yn dod â’r wlad ynghyd er mwyn i bawb gyfrannu at gyflawni hyn. Y rhestr cyfranwyr yn llawn yw: Achievement for All, Beanstalk, Booktrust, Harper Collins, I CAN, National Association of Head Teachers (NAHT), National Literacy Trust, Publishers Association, Reading Agency, Save the Children a Teachfirst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.readongeton.org.uk.

 

Story Starters:

Mae Read On. Get On. wedi cydweithio â Ladybird a Penguin i wahodd y cymeriadau plant poblogaidd Peppa Pig, Ben & Holly a Topsy & Tim i greu ‘straeon cychwynnol’ i’r teulu – gweithgareddau gyda lluniau a geiriau i helpu plant bach i baratoi at ddarllen. Bydd y gweithgareddau syml yn helpu rhieni i ddysgu eu plant i fwynhau darllen a dangos bod pob amser yn amser stori – ar y bws, yn y siop goffi, wrth chwarae yn y parc neu wrth aros am y doctor. Bydd digonedd o adnoddau a chyngor ar y wefan hefyd wedi’u datblygu gan arbenigwyr iaith cynnar i helpu rhieni i helpu eu plant i wella eu sgiliau iaith a darllen.