Datganiadau i'r Wasg

Datganiad i’r wasg gan Amgueddfa Cymru

“Mae trafodaethau Amgueddfa Cymru gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) drwy ACAS ar ddyfodol y Taliadau Premiwm, ymysg materion eraill, yn parhau. Rydym yn dal yn gobeithio dod i gytundeb ar y mater hwn, felly siom oedd cael gwybod am fwriad PCS i barhau â’u gweithredu diwydiannol yn ystod y broses gymodi.

Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar ein hamgueddfeydd cenedlaethol fel a ganlyn:  

Dydd Mercher 19 Awst 2015        -           Amgueddfa Lechi Cymru ar gau.

Dydd Mercher 19 Awst 2015        -           Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ond

mae’n bosibl y bydd rhai orielau ar gau.

 

Dydd Iau 20 Awst 2015                -           Amgueddfa Wlân Cymru ar gau.

Dydd Iau 20 Awst 2015                -           Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gau.

Dydd Iau 20 Awst 2015                -           Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar agor

ond mae’n bosibl y bydd rhai adeiladau ar gau.

 

Dydd Sadwrn 22 Awst 2015         -           Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.

 

Dydd Sul 23 Awst 2015                -           Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.

 

Dydd Sadwrn 29 Awst 2015         -           Bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru,

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru ar gau. 

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan ar agor ond mae’n bosibl y bydd rhai orielau neu adeiladau ar gau.

Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor.

 

Dydd Sul 30 Awst 2015                -           Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.

 

Dydd Llun 31 Awst 2015               -           Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.

 

“Bydd sawl un o’n Hamgueddfeydd yn parhau ar agor i ymwelwyr, ond rydym yn annog unrhywun fydd am ymweld â’n Hamgueddfeydd i fynnu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan cyn teithio.

 

“Rydym wedi rhoi cynnig gwell gerbron PCS ac mae’r undeb yn ei ystyried ar hyn o bryd. Dyma’r gorau y gallwn ni gynnig o ystyried yr adnoddau ariannol sydd gennym, sydd wedi crebachu dros 20% yn y blynyddoedd diwethaf.

 

“Mae ein cynnig newydd yn cynnwys £300 ychwanegol i bob aelod o staff yr effeithir arno, ar ben yr iawndal a gynigir eisoes, sef £3,600 y pen ar gyfartaledd. Rydym hefyd wedi cynnig 6% o gynnydd yn y tâl sylfaenol, yn hytrach na 4%. Bydd y rheini ar y radd isaf yn cael yr opsiwn o dderbyn yr iawndal neu gael eu hamddiffyn rhag colledion ariannol dros y pum mlynedd nesaf. Byddwn hefyd yn talu’r Cyflog Byw o leiaf, sef £7.85 yr awr, i’n staff i gyd.

 

“Fel y mwyafrif o gyrff cyhoeddus, rydym yn gweithredu o fewn cyllideb gyfyngedig ac yn cael ein gorfodi i gynllunio ar gyfer rhagor o doriadau. Felly, nid oes dewis gennym ond cael gwared ar y Taliadau Premiwm, sydd yn costio rhyw £800,000 y flwyddyn i’r Amgueddfa ar hyn o bryd.

“Mae ein staff yn bwysig iawn i ni. Rydym am amddiffyn swyddi cymaint â phosib yn unol â’r adnoddau sydd gennym. Nid yw diswyddiadau gorfodol yn rhan o’r cynnig hwn ac nid ydym yn ystyried gwasanaethau contract allanol ar hyn o bryd.”