Datganiadau i'r Wasg

Gwyddonydd y gofod yn ymweld â Chaerdydd i roi cyfrif uniongyrchol o daith hanesyddol Rosetta

Uwch-gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn trafod 'y daith fwyaf cyffrous i archwilio'r gofod ers degawdau'

Bron i flwyddyn ers i long ofod Rosetta fynd i gyfarfod â chomed dros 400 miliwn km o'r Ddaear, bydd uwch-wyddonydd o'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn ymweld â Chaerdydd i drafod ei brofiad personol o'r daith hanesyddol a'r hyn sydd ar y gweill i wyddonwyr sy'n ceisio defnyddio data Rosetta i ddatgloi'r dirgelion ynghylch tarddiad bywyd.

Cynhelir y digwyddiad yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (ddydd Llun 24 Awst, 6.30pm), mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd yr Athro Mark McCaughrean yn sôn am yr eiliadau cynhyrfus pan ddaethpwyd â llong ofod Rosetta o'i thrwmgwsg 957 diwrnod, a phan ryddhawyd ei modiwl glanio, Philae, a'i anfon i lanio ar Gomed 67P/Churyumov-Gerasimenko.

Bydd yr Athro McCaughrean yn tynnu ar ei rôl fel Uwch-gynghorydd Gwyddonol yn yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i roi manylion y daith, a'i hanes deng mlwydd oed. Bydd hefyd yn trafod rhai o'r canlyniadau mwyaf diweddar y mae'r tîm wedi gallu eu casglu gan fodiwl glanio Philae.

Ar ôl lansio yn 2004, cwblhaodd llong ofod Rosetta ei thaith a chyrraedd Comed 67P ym mis Awst 2014. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, rhyddhaodd y llong ofod ei modiwl glanio, Philae, a laniodd ar y gomed ar 12 Tachwedd - pennod gwbl newydd yn hanes archwilio'r gofod.

Ar ôl glanio, gwnaed i Philae weithio mewn tywyllwch a gweithio ar fatris am ychydig ddiwrnodau, cyn mynd i drwmgwsg a deffro ar 13 Mehefin 2015 i gasglu data.

Y mis diwethaf, cadarnhawyd bod modiwl glanio Philae wedi darganfod amrywiaeth o gyfansoddion carbon ar wyneb y gomed, sy'n cefnogi'r ddamcaniaeth y gallai comedau fod wedi darparu'r cynhwysion cynnar ar gyfer bywyd ar y Ddaear.

Cyn ei sgwrs, dywedodd yr Athro McCaughrean: "Rosetta yw un o'r teithiau mwyaf cyffrous i archwilio'r gofod ers degawdau - aeth i gyfarfod â chomed, ei hebrwng, a glanio arni. Ond y stori wyddonol yw'r stori fwyaf chwilfrydig. Beth allwn ei ddysgu am darddiad dŵr ar y Ddaear, ac efallai tarddiad bywyd ei hun, drwy astudio'r gist drysor hon o ddeunydd sydd dros ben ar ôl geni ein system solar, a'i hastudio mor fanwl?"

 

Dywedodd Dr Jana Horak, Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg, Amgueddfa Cymru: "Dyma ddigwyddiad cydweithredol cyffrous arall wrth i Brifysgol Caerdydd ddilyn ein digwyddiad llwyddiannus i wylio'r diffyg rhannol ar yr haul yn gynharach eleni. Mae'n gyfle gwych i glywed am daith ofod hanesyddol yr Athro McCaughrean, ac rwy'n siŵr y bydd gwesteion ar y noswaith yn mwynhau hefyd."

I gofrestru ar gyfer sgwrs yr Athro McCaughrean, 'Rosetta: To Catch a Comet', ddydd Llun 24 Awst, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/rosetta-to-catch-a-comet-tickets-17965646733

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

1. Am ragor o fanylion cysylltwch â:

Tomas Llewelyn Barrett

Cyfathrebu a Marchnata

Prifysgol Caerdydd

Ffon: 02920 875596

E-bost: barretttl1@caerdydd.ac.uk

 

2. Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sy'n cynnwys prifysgolion y DU sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Roedd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn rhoi'r Brifysgol yn y 5ed safle trwy'r DU gyfan ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2007 a Changhellor y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans.  Sefydlwyd y Brifysgol gan Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Prifysgol Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk